3 Dywedodd yntau, “Â pha fedydd, ynteu, y bedyddiwyd chwi?” Atebasant hwythau, “Â bedydd Ioan.”
4 Ac meddai Paul, “Bedydd edifeirwch oedd bedydd Ioan, ac fe ddywedodd wrth y bobl am gredu yn yr hwn oedd yn dod ar ei ôl ef, hynny yw, yn Iesu.”
5 Pan glywsant hyn, fe'u bedyddiwyd hwy i enw'r Arglwydd Iesu,
6 a phan roddodd Paul ei ddwylo arnynt daeth yr Ysbryd Glân arnynt, a dechreusant lefaru â thafodau a phroffwydo.
7 Yr oedd tua deuddeg ohonynt i gyd.
8 Aeth i mewn i'r synagog, ac am dri mis bu'n llefaru'n hy yno, gan ymresymu a cheisio'u hargyhoeddi ynghylch teyrnas Dduw.
9 Ond gan fod rhai yn ymgaledu ac yn gwrthod credu, ac yn difenwi'r Ffordd yng ngŵydd y gynulleidfa, ymneilltuodd oddi wrthynt gan gymryd ei ddisgyblion oddi yno, a pharhau i ymresymu bob dydd yn narlithfa Tyranus.