11 Cretiaid ac Arabiaid, yr ydym yn eu clywed hwy yn llefaru yn ein hieithoedd ni am fawrion weithredoedd Duw.”
12 Yr oedd pawb yn synnu mewn penbleth, gan ddweud y naill wrth y llall, “Beth yw ystyr hyn?”
13 Ond yr oedd eraill yn dweud yn wawdlyd, “Wedi meddwi y maent.”
14 Safodd Pedr ynghyd â'r un ar ddeg, a chododd ei lais a'u hannerch: “Chwi Iddewon, a thrigolion Jerwsalem oll, bydded hyn yn hysbys i chwi; gwrandewch ar fy ngeiriau.
15 Nid yw'r rhain wedi meddwi, fel yr ydych chwi'n tybio, oherwydd dim ond naw o'r gloch y bore yw hi.
16 Eithr dyma'r hyn a ddywedwyd drwy'r proffwyd Joel:
17 “ ‘A hyn a fydd yn y dyddiau olaf, medd Duw:tywalltaf o'm Hysbryd ar bawb;a bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo;bydd eich gwŷr ifainc yn cael gweledigaethau,a'ch hynafgwyr yn gweld breuddwydion;