14 Safodd Pedr ynghyd â'r un ar ddeg, a chododd ei lais a'u hannerch: “Chwi Iddewon, a thrigolion Jerwsalem oll, bydded hyn yn hysbys i chwi; gwrandewch ar fy ngeiriau.
15 Nid yw'r rhain wedi meddwi, fel yr ydych chwi'n tybio, oherwydd dim ond naw o'r gloch y bore yw hi.
16 Eithr dyma'r hyn a ddywedwyd drwy'r proffwyd Joel:
17 “ ‘A hyn a fydd yn y dyddiau olaf, medd Duw:tywalltaf o'm Hysbryd ar bawb;a bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo;bydd eich gwŷr ifainc yn cael gweledigaethau,a'ch hynafgwyr yn gweld breuddwydion;
18 hyd yn oed ar fy nghaethweision a'm caethforynion,yn y dyddiau hynny, fe dywalltaf o'm Hysbryd,ac fe broffwydant.
19 A rhof ryfeddodau yn y nef uchodac arwyddion ar y ddaear isod,gwaed a thân a tharth mwg;
20 troir yr haul yn dywyllwch,a'r lleuad yn waed,cyn i ddydd mawr a disglair yr Arglwydd ddod;