16 Eithr dyma'r hyn a ddywedwyd drwy'r proffwyd Joel:
17 “ ‘A hyn a fydd yn y dyddiau olaf, medd Duw:tywalltaf o'm Hysbryd ar bawb;a bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo;bydd eich gwŷr ifainc yn cael gweledigaethau,a'ch hynafgwyr yn gweld breuddwydion;
18 hyd yn oed ar fy nghaethweision a'm caethforynion,yn y dyddiau hynny, fe dywalltaf o'm Hysbryd,ac fe broffwydant.
19 A rhof ryfeddodau yn y nef uchodac arwyddion ar y ddaear isod,gwaed a thân a tharth mwg;
20 troir yr haul yn dywyllwch,a'r lleuad yn waed,cyn i ddydd mawr a disglair yr Arglwydd ddod;
21 a bydd pob un sy'n galw ar enw'r Arglwydd yn cael ei achub.’
22 “Bobl Israel, clywch hyn: sôn yr wyf am Iesu o Nasareth, gŵr y mae ei benodi gan Dduw wedi ei amlygu i chwi trwy wyrthiau a rhyfeddodau ac arwyddion a gyflawnodd Duw trwyddo ef yn eich mysg chwi, fel y gwyddoch chwi eich hunain.