3 Ymddangosodd iddynt dafodau fel o dân yn ymrannu ac yn eistedd un ar bob un ohonynt;
4 a llanwyd hwy oll â'r Ysbryd Glân, a dechreusant lefaru â thafodau dieithr, fel yr oedd yr Ysbryd yn rhoi lleferydd iddynt.
5 Yr oedd yn preswylio yn Jerwsalem Iddewon, pobl dduwiol o bob cenedl dan y nef;
6 ac wrth glywed y sŵn hwn fe ymgasglodd tyrfa ohonynt, ac yr oeddent wedi drysu'n lân am fod pob un ohonynt yn eu clywed hwy yn siarad yn ei iaith ei hun.
7 Yr oeddent yn synnu ac yn rhyfeddu, ac yn dweud, “Onid Galileaid yw'r rhain oll sy'n llefaru?
8 A sut yr ydym ni yn eu clywed bob un ohonom yn ei iaith ei hun, iaith ei fam?
9 Parthiaid a Mediaid ac Elamitiaid, a thrigolion Mesopotamia, Jwdea a Capadocia, Pontus ac Asia,