30 Felly, ac yntau'n broffwyd ac yn gwybod i Dduw dyngu iddo ar lw y gosodai un o'i linach ar ei orsedd,
31 rhagweld atgyfodiad y Meseia yr oedd pan ddywedodd:“ ‘Ni adawyd ef yn Hades,ac ni welodd ei gnawd lygredigaeth.’
32 “Yr Iesu hwn a gyfododd Duw, rhywbeth yr ydym ni oll yn dystion ohono.
33 Felly, wedi iddo gael ei ddyrchafu i ddeheulaw Duw, a derbyn gan y Tad ei addewid am yr Ysbryd Glân, fe dywalltodd y peth hwn yr ydych chwi yn ei weld a'i glywed.
34 Canys nid Dafydd a esgynnodd i'r nefoedd; y mae ef ei hun yn dweud:“ ‘Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i,“Eistedd ar fy neheulaw,
35 nes imi osod dy elynion yn droedfainc i'th draed.” ’
36 “Felly gwybydded holl dŷ Israel yn sicr fod Duw wedi gwneud yn Arglwydd ac yn Feseia, yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi.”