7 Yr oeddent yn synnu ac yn rhyfeddu, ac yn dweud, “Onid Galileaid yw'r rhain oll sy'n llefaru?
8 A sut yr ydym ni yn eu clywed bob un ohonom yn ei iaith ei hun, iaith ei fam?
9 Parthiaid a Mediaid ac Elamitiaid, a thrigolion Mesopotamia, Jwdea a Capadocia, Pontus ac Asia,
10 Phrygia a Pamffylia, yr Aifft a pharthau Libya tua Cyrene, a'r ymwelwyr o Rufain, yn Iddewon a phroselytiaid,
11 Cretiaid ac Arabiaid, yr ydym yn eu clywed hwy yn llefaru yn ein hieithoedd ni am fawrion weithredoedd Duw.”
12 Yr oedd pawb yn synnu mewn penbleth, gan ddweud y naill wrth y llall, “Beth yw ystyr hyn?”
13 Ond yr oedd eraill yn dweud yn wawdlyd, “Wedi meddwi y maent.”