1 Wedi i ni ymadael â hwy a chodi angor, daethom ar union hynt i Cos, a thrannoeth i Rhodos, ac oddi yno i Patara.
2 Cawsom long yn croesi i Phoenicia, ac aethom arni a hwylio ymaith.
3 Wedi dod i olwg Cyprus, a'i gadael ar y chwith, hwyliasom ymlaen i Syria, a glanio yn Tyrus, oherwydd yno yr oedd y llong yn dadlwytho.
4 Daethom o hyd i'r disgyblion, ac aros yno saith diwrnod; a dywedodd y rhain wrth Paul trwy'r Ysbryd am beidio â mynd ymlaen i Jerwsalem.