14 A chan nad oedd modd cael perswâd arno, tawsom gan ddweud, “Gwneler ewyllys yr Arglwydd.”
15 Wedi'r dyddiau hyn, gwnaethom ein paratoadau a chychwyn i fyny i Jerwsalem;
16 ac fe ddaeth rhai o'r disgyblion o Gesarea gyda ni, gan ddod â ni i dŷ'r gŵr yr oeddem i letya gydag ef, Mnason o Cyprus, un oedd wedi bod yn ddisgybl o'r dechrau.
17 Wedi inni gyrraedd Jerwsalem, cawsom groeso llawen gan y credinwyr.
18 A thrannoeth, aeth Paul gyda ni at Iago, ac yr oedd yr henuriaid i gyd yno.
19 Ar ôl eu cyfarch, adroddodd yn fanwl y pethau yr oedd Duw wedi eu gwneud ymhlith y Cenhedloedd trwy ei weinidogaeth.
20 O glywed hyn, rhoesant ogoniant i Dduw. Yna meddent wrth Paul, “Yr wyt yn gweld, frawd, fod credinwyr dirifedi ymhlith yr Iddewon, ac y maent i gyd yn selog dros y Gyfraith;