19 Ar ôl eu cyfarch, adroddodd yn fanwl y pethau yr oedd Duw wedi eu gwneud ymhlith y Cenhedloedd trwy ei weinidogaeth.
20 O glywed hyn, rhoesant ogoniant i Dduw. Yna meddent wrth Paul, “Yr wyt yn gweld, frawd, fod credinwyr dirifedi ymhlith yr Iddewon, ac y maent i gyd yn selog dros y Gyfraith;
21 a chawsant wybodaeth amdanat ti, dy fod yn dysgu'r holl Iddewon sydd ymysg y Cenhedloedd i wrthgilio oddi wrth Moses, gan ddweud wrthynt am beidio ag enwaedu ar eu plant na byw yn ôl ein defodau.
22 Beth sydd i'w wneud, felly? Y maent yn siŵr o glywed dy fod wedi dod.
23 Felly, gwna'r hyn a ddywedwn wrthyt. Y mae gennym bedwar dyn sydd dan lw.
24 Cymer y rhain, a dos di gyda hwy trwy ddefod y pureiddio, a thâl y gost drostynt, iddynt gael eillio eu pennau; yna fe wêl pawb nad oes dim yn y wybodaeth a gawsant amdanat, ond dy fod tithau hefyd yn dilyn ac yn cadw'r Gyfraith.
25 Ond am y credinwyr o blith y Cenhedloedd, yr ydym ni wedi ysgrifennu atynt a rhoi ein dyfarniad, eu bod i ymgadw rhag bwyta yr hyn a aberthwyd i eilunod, neu waed, neu'r hyn a dagwyd, a rhag anfoesoldeb rhywiol.”