23 Felly, gwna'r hyn a ddywedwn wrthyt. Y mae gennym bedwar dyn sydd dan lw.
24 Cymer y rhain, a dos di gyda hwy trwy ddefod y pureiddio, a thâl y gost drostynt, iddynt gael eillio eu pennau; yna fe wêl pawb nad oes dim yn y wybodaeth a gawsant amdanat, ond dy fod tithau hefyd yn dilyn ac yn cadw'r Gyfraith.
25 Ond am y credinwyr o blith y Cenhedloedd, yr ydym ni wedi ysgrifennu atynt a rhoi ein dyfarniad, eu bod i ymgadw rhag bwyta yr hyn a aberthwyd i eilunod, neu waed, neu'r hyn a dagwyd, a rhag anfoesoldeb rhywiol.”
26 Yna fe gymerodd Paul y gwŷr, a thrannoeth aeth trwy ddefod y pureiddio gyda hwy, ac aeth i mewn i'r deml, i roi rhybudd pa bryd y cyflawnid dyddiau'r pureiddio ac yr offrymid yr offrwm dros bob un ohonynt.
27 Ond pan oedd y saith diwrnod bron ar ben, gwelodd yr Iddewon o Asia ef yn y deml. Codasant gynnwrf yn yr holl dyrfa, a chymryd gafael ynddo,
28 gan weiddi, “Chwi Israeliaid, helpwch ni. Hwn yw'r dyn sy'n dysgu pawb ym mhob man yn erbyn ein pobl a'r Gyfraith a'r lle hwn, ac sydd hefyd wedi dod â Groegiaid i mewn i'r deml, a halogi'r lle sanctaidd hwn.”
29 Oherwydd yr oeddent cyn hynny wedi gweld Troffimus yr Effesiad yn y ddinas gydag ef, ac yr oeddent yn meddwl fod Paul wedi dod ag ef i mewn i'r deml.