30 Cyffrowyd yr holl ddinas, a rhuthrodd y bobl ynghyd. Cymerasant afael yn Paul, a'i lusgo allan o'r deml, a chaewyd y drysau ar unwaith.
31 Fel yr oeddent yn ceisio'i ladd ef, daeth neges at gapten y fintai fod Jerwsalem i gyd mewn cynnwrf.
32 Cymerodd yntau filwyr a chanwriaid ar unwaith, a rhedeg i lawr atynt; a phan welsant hwy'r capten a'r milwyr, rhoesant y gorau i guro Paul.
33 Yna daeth y capten atynt, a chymryd gafael yn Paul, a gorchymyn ei rwymo â dwy gadwyn. Dechreuodd holi pwy oedd, a beth yr oedd wedi ei wneud.
34 Yr oedd rhai yn y dyrfa yn bloeddio un peth, ac eraill beth arall. A chan na allai ddod o hyd i'r gwir oherwydd y dwndwr, gorchmynnodd ei ddwyn i'r pencadlys.
35 A phan ddaeth Paul at y grisiau, bu raid i'r milwyr ei gario oherwydd ffyrnigrwydd y dyrfa,
36 oblegid yr oedd tyrfa o bobl yn canlyn dan weiddi, “Ymaith ag ef!”