9 Ond gan fod Ffestus yn awyddus i ennill ffafr yr Iddewon, gofynnodd i Paul, “A wyt ti'n fodlon mynd i fyny i Jerwsalem a chael dy farnu yno ger fy mron i am y pethau hyn?”
10 Dywedodd Paul, “Yr wyf fi'n sefyll gerbron llys Cesar, lle y dylid fy marnu. Ni throseddais o gwbl yn erbyn yr Iddewon, fel y gwyddost ti yn eithaf da.
11 Fodd bynnag, os wyf yn droseddwr, ac os wyf wedi gwneud rhywbeth sy'n haeddu marwolaeth, nid wyf yn ceisio osgoi dedfryd marwolaeth. Ond os yw cyhuddiadau'r bobl hyn yn fy erbyn yn ddisail, ni all neb fy nhrosglwyddo iddynt fel ffafr. Yr wyf yn apelio at Gesar.”
12 Yna, wedi iddo drafod y mater â'i gynghorwyr, atebodd Ffestus: “At Gesar yr wyt wedi apelio; at Gesar y cei fynd.”
13 Ymhen rhai dyddiau daeth y Brenin Agripa a Bernice i lawr i Gesarea i groesawu Ffestus.
14 A chan eu bod yn treulio dyddiau lawer yno, cyflwynodd Ffestus achos Paul i sylw'r brenin. “Y mae yma ddyn,” meddai, “wedi ei adael gan Ffelix yn garcharor,
15 a phan oeddwn yn Jerwsalem gosododd y prif offeiriaid a henuriaid yr Iddewon ei achos ef ger fy mron, a gofyn am ei gondemnio.