18 i agor eu llygaid, a'u troi o dywyllwch i oleuni, o awdurdod Satan at Dduw, er mwyn iddynt gael maddeuant pechodau a chyfran ymhlith y rhai a sancteiddiwyd trwy ffydd ynof fi.’
19 “O achos hyn, y Brenin Agripa, ni bûm anufudd i'r weledigaeth nefol,
20 ond bûm yn cyhoeddi i drigolion Damascus yn gyntaf, ac yn Jerwsalem, a thrwy holl wlad Jwdea, ac i'r Cenhedloedd, eu bod i edifarhau a throi at Dduw, a gweithredu yn deilwng o'u hedifeirwch.
21 Oherwydd hyn y daliodd yr Iddewon fi yn y deml, a cheisio fy llofruddio.
22 Ond mi gefais gymorth gan Dduw hyd heddiw, ac yr wyf yn sefyll gan dystiolaethu i fawr a mân, heb ddweud dim ond y pethau y dywedodd y proffwydi, a Moses hefyd, eu bod i ddigwydd,
23 sef bod yn rhaid i'r Meseia ddioddef, a'i fod ef, y cyntaf i atgyfodi oddi wrth y meirw, i gyhoeddi goleuni i bobl Israel ac i'r Cenhedloedd.”
24 Ar ganol yr amddiffyniad hwn, dyma Ffestus yn gweiddi, “Yr wyt yn wallgof, Paul; y mae dy fawr ddysg yn dy yrru di'n wallgof.”