38 Wedi iddynt gael digon o fwyd, dechreusant ysgafnhau'r llong trwy daflu'r ŷd allan i'r môr.
39 Pan ddaeth hi'n ddydd, nid oeddent yn adnabod y tir, ond gwelsant gilfach ac iddi draeth, a phenderfynwyd gyrru'r llong i'r lan yno, os oedd modd.
40 Torasant yr angorion i ffwrdd, a'u gadael yn y môr. Yr un pryd, datodwyd cyplau'r llywiau, a chodi'r hwyl flaen i'r awel, a chyfeirio tua'r traeth.
41 Ond daliwyd hwy gan ddeufor-gyfarfod, a gyrasant y llong i dir. Glynodd y pen blaen, a sefyll yn ddiysgog, ond dechreuodd y starn ymddatod dan rym y tonnau.
42 Penderfynodd y milwyr ladd y carcharorion, rhag i neb ohonynt nofio i ffwrdd a dianc.
43 Ond gan fod y canwriad yn awyddus i achub Paul, rhwystrodd hwy rhag cyflawni eu bwriad, a gorchmynnodd i'r rhai a fedrai nofio neidio yn gyntaf oddi ar y llong, a chyrraedd y tir,
44 ac yna'r lleill, rhai ar ystyllod ac eraill ar ddarnau o'r llong. Ac felly y bu i bawb ddod yn ddiogel i dir.