6 Yno cafodd y canwriad long o Alexandria oedd yn hwylio i'r Eidal, a gosododd ni arni.
7 Buom am ddyddiau lawer yn hwylio'n araf, ac yn cael trafferth i gyrraedd i ymyl Cnidus. Gan fod y gwynt yn dal i'n rhwystro, hwyliasom i gysgod Creta gyferbyn â Salmone,
8 a thrwy gadw gyda'r tir, daethom â chryn drafferth i le a elwid Porthladdoedd Teg, nid nepell o dref Lasaia.
9 Gan fod cryn amser wedi mynd heibio, a bod morio bellach yn beryglus, oherwydd yr oedd hyd yn oedd gŵyl yr Ympryd drosodd eisoes, rhoes Paul y cyngor hwn iddynt:
10 “Ddynion, rwy'n gweld y bydd mynd ymlaen â'r fordaith yma yn sicr o beri difrod a cholled enbyd, nid yn unig i'r llwyth ac i'r llong, ond i'n bywydau ni hefyd.”
11 Ond yr oedd y canwriad yn rhoi mwy o goel ar y peilot a meistr y llong nag ar eiriau Paul.
12 A chan fod y porthladd yn anghymwys i fwrw'r gaeaf ynddo, yr oedd y rhan fwyaf o blaid hwylio oddi yno, yn y gobaith y gallent rywfodd gyrraedd Phenix, porthladd yn Creta yn wynebu'r de orllewin a'r gogledd-orllewin, a bwrw'r gaeaf yno.