12 Wedi cyrraedd Syracwsai, ac aros yno dridiau, hwyliasom oddi yno a dod i Rhegium.
13 Ar ôl diwrnod cododd gwynt o'r de, a'r ail ddydd daethom i Puteoli.
14 Yno cawsom hyd i gydgredinwyr, a gwahoddwyd ni i aros gyda hwy am saith diwrnod. A dyna sut y daethom i Rufain.
15 Pan glywodd y credinwyr yno amdanom, daethant allan cyn belled â Marchnad Apius a'r Tair Tafarn i'n cyfarfod. Pan welodd Paul hwy, fe ddiolchodd i Dduw, ac ymwrolodd.
16 Pan aethom i mewn i Rufain fe ganiatawyd i Paul letya ar ei ben ei hun, gyda'r milwr oedd yn ei warchod.
17 Ymhen tridiau, galwodd Paul ynghyd yr arweinwyr ymysg yr Iddewon. Wedi iddynt ddod at ei gilydd, dywedodd wrthynt, “Er nad wyf fi, frodyr, wedi gwneud dim yn erbyn fy mhobl na defodau'r hynafiaid, cefais fy nhraddodi yn garcharor o Jerwsalem i ddwylo'r Rhufeiniaid.
18 Yr oeddent hwy, wedi iddynt fy holi, yn dymuno fy ngollwng yn rhydd, am nad oedd dim rheswm dros fy rhoi i farwolaeth.