5 Yna, ysgydwodd ef y neidr ymaith i'r tân, heb gael dim niwed;
6 yr oeddent hwy'n disgwyl iddo ddechrau chwyddo, neu syrthio'n farw yn sydyn. Ar ôl iddynt ddisgwyl yn hir, a gweld nad oedd dim anghyffredin yn digwydd iddo, newidiasant eu meddwl a dechrau dweud mai duw ydoedd.
7 Yng nghyffiniau'r lle hwnnw, yr oedd tiroedd gan ŵr blaenaf yr ynys, un o'r enw Poplius. Derbyniodd hwn ni, a'n lletya yn gyfeillgar am dridiau.
8 Yr oedd tad Poplius yn digwydd bod yn gorwedd yn glaf, yn dioddef gan byliau o dwymyn a chan ddisentri. Aeth Paul i mewn ato, a chan weddïo a rhoi ei ddwylo arno, fe'i hiachaodd.
9 Wedi i hyn ddigwydd, daeth y lleill yn yr ynys oedd dan afiechyd ato hefyd, a chael eu hiacháu.
10 Rhoddodd y bobl hyn anrhydeddau lawer inni, ac wrth inni gychwyn ymaith, ein llwytho â phopeth y byddai arnom ei angen.
11 Tri mis yn ddiweddarach, hwyliasom i ffwrdd mewn llong o Alexandria oedd wedi bwrw'r gaeaf yn yr ynys, a'r Efeilliaid Nefol yn arwydd arni.