1 Yr oedd Pedr ac Ioan yn mynd i fyny i'r deml erbyn yr awr weddi, sef tri o'r gloch y prynhawn.
2 Ac yr oedd rhywrai'n dod â dyn oedd yn gloff o'i enedigaeth, ac yn ei osod beunydd wrth borth y deml, yr un a elwid y Porth Prydferth, i erfyn am gardod gan y rhai a fyddai'n mynd i mewn i'r deml.
3 Pan welodd hwn Pedr ac Ioan ar fynd i mewn i'r deml, gofynnodd am gael cardod.
4 Syllodd Pedr arno, ac Ioan yntau, a dywedodd, “Edrych arnom.”
5 Gwyliodd yntau hwy, gan ddisgwyl cael rhywbeth ganddynt.