18 Ond fel hyn y cyflawnodd Duw yr hyn a ragfynegodd drwy enau'r holl broffwydi, sef dioddefaint ei Feseia.
19 Edifarhewch, ynteu, a throwch at Dduw, er mwyn dileu eich pechodau. Felly y daw oddi wrth yr Arglwydd dymhorau adnewyddiad,
20 ac yr anfona ef y Meseia a benodwyd i chwi, sef Iesu,
21 yr hwn y mae'n rhaid i'r nef ei dderbyn hyd amseroedd adferiad pob peth a lefarodd Duw trwy enau ei broffwydi sanctaidd erioed.
22 Dywedodd Moses, ‘Bydd yr Arglwydd eich Duw yn codi i chwi o blith eich cyd-genedl broffwyd, fel fi. Arno ef yr ydych i wrando ym mhob peth a lefara wrthych.
23 A phob enaid na wrendy ar y proffwyd hwnnw, fe'i llwyr ddifodir o blith y bobl.’
24 A'r holl broffwydi o Samuel a'i olynwyr, cynifer ag a lefarodd, cyhoeddasant hwythau y dyddiau hyn.