2 Ac yr oedd rhywrai'n dod â dyn oedd yn gloff o'i enedigaeth, ac yn ei osod beunydd wrth borth y deml, yr un a elwid y Porth Prydferth, i erfyn am gardod gan y rhai a fyddai'n mynd i mewn i'r deml.
3 Pan welodd hwn Pedr ac Ioan ar fynd i mewn i'r deml, gofynnodd am gael cardod.
4 Syllodd Pedr arno, ac Ioan yntau, a dywedodd, “Edrych arnom.”
5 Gwyliodd yntau hwy, gan ddisgwyl cael rhywbeth ganddynt.
6 Dywedodd Pedr, “Arian ac aur nid oes gennyf; ond yr hyn sydd gennyf, hynny yr wyf yn ei roi iti; yn enw Iesu Grist o Nasareth, cod a cherdda.”
7 A gafaelodd ynddo gerfydd ei law dde, a chododd ef. Ac ar unwaith cryfhaodd ei draed a'i fferau;
8 neidiodd i fyny, safodd, a dechreuodd gerdded, ac aeth i mewn gyda hwy i'r deml dan gerdded a neidio a moli Duw.