5 Gwyliodd yntau hwy, gan ddisgwyl cael rhywbeth ganddynt.
6 Dywedodd Pedr, “Arian ac aur nid oes gennyf; ond yr hyn sydd gennyf, hynny yr wyf yn ei roi iti; yn enw Iesu Grist o Nasareth, cod a cherdda.”
7 A gafaelodd ynddo gerfydd ei law dde, a chododd ef. Ac ar unwaith cryfhaodd ei draed a'i fferau;
8 neidiodd i fyny, safodd, a dechreuodd gerdded, ac aeth i mewn gyda hwy i'r deml dan gerdded a neidio a moli Duw.
9 Gwelodd yr holl bobl ef yn cerdded ac yn moli Duw.
10 Yr oeddent yn sylweddoli mai hwn oedd y dyn a fyddai'n eistedd i gardota wrth Borth Prydferth y deml, a llanwyd hwy â braw a syndod am yr hyn oedd wedi digwydd iddo.
11 Tra oedd ef yn gafael yn Pedr ac Ioan, rhedodd yr holl bobl ynghyd atynt i'r fan a elwir yn Gloestr Solomon, wedi eu syfrdanu.