26 Safodd brenhinoedd y ddaear,ac ymgasglodd y llywodraethwyr ynghydyn erbyn yr Arglwydd ac yn erbyn ei Feseia ef.’
27 “Canys yn y ddinas hon yn wir ymgasglodd yn erbyn dy Was sanctaidd, Iesu, yr hwn a eneiniaist, Herod a Pontius Pilat ynghyd â'r Cenhedloedd a phobloedd Israel,
28 i wneud yr holl bethau y rhagluniodd dy law a'th gyngor di iddynt ddod.
29 Ac yn awr, Arglwydd, edrych ar eu bygythion, a dyro i'th weision lefaru dy air â phob hyder,
30 ac estyn dithau dy law i beri iachâd ac arwyddion a rhyfeddodau drwy enw dy Was sanctaidd, Iesu.”
31 Ac wedi iddynt weddïo, ysgydwyd y lle yr oeddent wedi ymgynnull ynddo, a llanwyd hwy oll â'r Ysbryd Glân, a llefarasant air Duw yn hy.
32 Yr oedd y lliaws credinwyr o un galon ac enaid, ac ni fyddai neb yn dweud am ddim o'i feddiannau mai ei eiddo ef ei hun ydoedd, ond yr oedd ganddynt bopeth yn gyffredin.