1 Ond yr oedd rhyw ddyn o'r enw Ananias, ynghyd â'i wraig Saffeira, wedi gwerthu eiddo.
2 Cadwodd ef beth o'r tâl yn ôl, a'i wraig hithau'n gwybod, a daeth â rhyw gyfran a'i osod wrth draed yr apostolion.
3 Ond meddai Pedr, “Ananias, sut y bu i Satan lenwi dy galon i ddweud celwydd wrth yr Ysbryd Glân, a chadw'n ôl beth o'r tâl am y tir?
4 Tra oedd yn aros heb ei werthu, onid yn dy feddiant di yr oedd yn aros? Ac wedi ei werthu, onid gennyt ti yr oedd yr hawl ar yr arian? Sut y rhoddaist le yn dy feddwl i'r fath weithred? Nid wrth ddynion y dywedaist gelwydd, ond wrth Dduw.”