11 Daeth ofn mawr ar yr holl eglwys ac ar bawb a glywodd am hyn.
12 Trwy ddwylo'r apostolion gwnaed arwyddion a rhyfeddodau lawer ymhlith y bobl. Yr oeddent oll yn arfer dod ynghyd yng Nghloestr Solomon.
13 Nid oedd neb arall yn meiddio ymlynu wrthynt, ond yr oedd y bobl yn eu mawrygu,
14 ac yr oedd credinwyr yn cael eu chwanegu fwyfwy at yr Arglwydd, luoedd o wŷr a gwragedd.
15 Yn wir, yr oeddent hyd yn oed yn dod â'r cleifion allan i'r heolydd, ac yn eu gosod ar welyau a matresi, fel pan fyddai Pedr yn mynd heibio y câi ei gysgod o leiaf ddisgyn ar ambell un ohonynt.
16 Byddai'r dyrfa'n ymgynnull hefyd o'r trefi o amgylch Jerwsalem, gan ddod â chleifion a rhai oedd yn cael eu blino gan ysbrydion aflan; ac yr oeddent yn cael eu hiacháu bob un.
17 Ond llanwyd yr archoffeiriad ag eiddigedd, a'r holl rai hynny oedd gydag ef, sef plaid y Sadwceaid.