29 Atebodd Pedr a'r apostolion, “Rhaid ufuddhau i Dduw yn hytrach nag i ddynion.
30 Y mae Duw ein hynafiaid ni wedi cyfodi Iesu, yr hwn yr oeddech chwi wedi ei lofruddio trwy ei grogi ar bren.
31 Hwn a ddyrchafodd Duw at ei law dde yn Bentywysog a Gwaredwr, i roi edifeirwch i Israel a maddeuant pechodau.
32 Ac yr ydym ni'n dystion o'r pethau hyn, ni a'r Ysbryd Glân a roddodd Duw i'r rhai sy'n ufuddhau iddo.”
33 Pan glywsant hwy hyn, aethant yn ffyrnig ac ewyllysio eu lladd.
34 Ond fe gododd yn y Sanhedrin ryw Pharisead o'r enw Gamaliel, athro'r Gyfraith, gŵr a berchid gan yr holl bobl, ac archodd anfon y dynion allan am ychydig.
35 “Wŷr Israel,” meddai, “cymerwch ofal beth yr ydych am ei wneud â'r dynion hyn.