30 Y mae Duw ein hynafiaid ni wedi cyfodi Iesu, yr hwn yr oeddech chwi wedi ei lofruddio trwy ei grogi ar bren.
31 Hwn a ddyrchafodd Duw at ei law dde yn Bentywysog a Gwaredwr, i roi edifeirwch i Israel a maddeuant pechodau.
32 Ac yr ydym ni'n dystion o'r pethau hyn, ni a'r Ysbryd Glân a roddodd Duw i'r rhai sy'n ufuddhau iddo.”
33 Pan glywsant hwy hyn, aethant yn ffyrnig ac ewyllysio eu lladd.
34 Ond fe gododd yn y Sanhedrin ryw Pharisead o'r enw Gamaliel, athro'r Gyfraith, gŵr a berchid gan yr holl bobl, ac archodd anfon y dynion allan am ychydig.
35 “Wŷr Israel,” meddai, “cymerwch ofal beth yr ydych am ei wneud â'r dynion hyn.
36 Oherwydd dro'n ôl cododd Theudas, gan honni ei fod yn rhywun, ac ymunodd nifer o ddynion ag ef, ynghylch pedwar cant. Lladdwyd ef, a chwalwyd pawb oedd yn ei ganlyn, ac aethant yn ddim.