1 Y diwrnod hwnnw dechreuodd erlid mawr ar yr eglwys yn Jerwsalem. Gwasgarwyd hwy, pawb ond yr apostolion, trwy barthau Jwdea a Samaria.
2 Claddwyd Steffan gan wŷr duwiol, ac yr oeddent yn galarnadu'n uchel amdano.
3 Ond anrheithio'r eglwys yr oedd Saul: mynd i mewn i dŷ ar ôl tŷ, a llusgo allan wŷr a gwragedd, a'u traddodi i garchar.
4 Am y rhai a wasgarwyd, teithiasant gan bregethu'r gair.