Luc 1 BCN

Cyflwyniad i Theoffilus

1 Yn gymaint â bod llawer wedi ymgymryd ag ysgrifennu hanes y pethau a gyflawnwyd yn ein plith,

2 fel y traddodwyd hwy inni gan y rhai a fu o'r dechreuad yn llygad-dystion ac yn weision y gair,

3 penderfynais innau, gan fy mod wedi ymchwilio yn fanwl i bopeth o'r dechreuad, eu hysgrifennu i ti yn eu trefn, ardderchocaf Theoffilus,

4 er mwyn iti gael sicrwydd am y wybodaeth a dderbyniaist.

Rhagfynegi Genedigaeth Ioan Fedyddiwr

5 Yn nyddiau Herod, brenin Jwdea, yr oedd offeiriad o adran Abeia, o'r enw Sachareias, a chanddo wraig o blith merched Aaron; ei henw hi oedd Elisabeth.

6 Yr oeddent ill dau yn gyfiawn gerbron Duw, yn ymddwyn yn ddi-fai yn ôl holl orchmynion ac ordeiniadau'r Arglwydd.

7 Nid oedd ganddynt blant, oherwydd yr oedd Elisabeth yn ddiffrwyth, ac yr oeddent ill dau wedi cyrraedd oedran mawr.

8 Ond pan oedd Sachareias a'i adran, yn eu tro, yn gweinyddu fel offeiriaid gerbron Duw,

9 yn ôl arferiad y swydd, daeth i'w ran fynd i mewn i gysegr yr Arglwydd ac offrymu'r arogldarth;

10 ac ar awr yr offrymu yr oedd holl dyrfa'r bobl y tu allan yn gweddïo.

11 A dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos iddo, yn sefyll ar yr ochr dde i allor yr arogldarth;

12 a phan welodd Sachareias ef, fe'i cythryblwyd a daeth ofn arno.

13 Ond dywedodd yr angel wrtho, “Paid ag ofni, Sachareias, oherwydd y mae dy ddeisyfiad wedi ei wrando; bydd dy wraig Elisabeth yn esgor ar fab i ti, a gelwi ef Ioan.

14 Fe gei lawenydd a gorfoledd, a bydd llawer yn llawenychu o achos ei enedigaeth ef;

15 oherwydd mawr fydd ef gerbron yr Arglwydd, ac nid yf win na diod gadarn byth; llenwir ef â'r Ysbryd Glân, ie, yng nghroth ei fam,

16 ac fe dry lawer o bobl Israel yn ôl at yr Arglwydd eu Duw.

17 Bydd yn cerdded o flaen yr Arglwydd yn ysbryd a nerth Elias, i droi calonnau rhieni at eu plant, ac i droi'r anufudd i feddylfryd y cyfiawn, er mwyn darparu i'r Arglwydd bobl wedi eu paratoi.”

18 Meddai Sachareias wrth yr angel, “Sut y caf sicrwydd o hyn? Oherwydd yr wyf fi yn hen, a'm gwraig wedi cyrraedd oedran mawr.”

19 Atebodd yr angel ef, “Myfi yw Gabriel, sydd yn sefyll gerbron Duw, ac anfonwyd fi i lefaru wrthyt ac i gyhoeddi iti y newydd da hwn;

20 ac wele, byddi'n fud a heb allu llefaru hyd y dydd y digwydd hyn, am iti beidio â chredu fy ngeiriau, geiriau a gyflawnir yn eu hamser priodol.”

21 Yr oedd y bobl yn disgwyl am Sachareias, ac yn synnu ei fod yn oedi yn y cysegr.

22 A phan ddaeth allan, ni allai lefaru wrthynt, a deallasant iddo gael gweledigaeth yn y cysegr; yr oedd yntau yn amneidio arnynt ac yn parhau yn fud.

23 Pan ddaeth dyddiau ei wasanaeth i ben, dychwelodd adref.

24 Ond wedi'r dyddiau hynny beichiogodd Elisabeth ei wraig; ac fe'i cuddiodd ei hun am bum mis, gan ddweud,

25 “Fel hyn y gwnaeth yr Arglwydd i mi yn y dyddiau yr edrychodd arnaf i dynnu ymaith fy ngwarth yng ngolwg y cyhoedd.”

Rhagfynegi Genedigaeth Iesu

26 Yn y chweched mis anfonwyd yr angel Gabriel gan Dduw i dref yng Ngalilea o'r enw Nasareth,

27 at wyryf oedd wedi ei dyweddïo i ŵr o'r enw Joseff, o dŷ Dafydd; Mair oedd enw'r wyryf.

28 Aeth yr angel ati a dweud, “Henffych well, tydi, yr un y rhoddodd Duw ei ffafr iddi! Y mae'r Arglwydd gyda thi.”

29 Ond cythryblwyd hi drwyddi gan ei eiriau, a cheisiodd ddirnad pa fath gyfarchiad a allai hwn fod.

30 Meddai'r angel wrthi, “Paid ag ofni, Mair, oherwydd cefaist ffafr gyda Duw;

31 ac wele, byddi'n beichiogi yn dy groth ac yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu.

32 Bydd hwn yn fawr, a Mab y Goruchaf y gelwir ef; rhydd yr Arglwydd Dduw iddo orsedd Dafydd ei dad,

33 ac fe deyrnasa ar dŷ Jacob am byth, ac ar ei deyrnas ni bydd diwedd.”

34 Meddai Mair wrth yr angel, “Sut y digwydd hyn, gan nad wyf yn cael cyfathrach â gŵr?”

35 Atebodd yr angel hi, “Daw'r Ysbryd Glân arnat, a bydd nerth y Goruchaf yn dy gysgodi; am hynny, gelwir y plentyn a genhedlir yn sanctaidd, Mab Duw.

36 Ac wele, y mae Elisabeth dy berthynas hithau wedi beichiogi ar fab yn ei henaint, a dyma'r chweched mis i'r hon a elwir yn ddiffrwyth;

37 oherwydd ni bydd dim yn amhosibl gyda Duw.”

38 Dywedodd Mair, “Dyma lawforwyn yr Arglwydd; bydded i mi yn ôl dy air di.” Ac aeth yr angel i ffwrdd oddi wrthi.

Mair yn Ymweld ag Elisabeth

39 Ar hynny cychwynnodd Mair ac aeth ar frys i'r mynydd-dir, i un o drefi Jwda;

40 aeth i dŷ Sachareias a chyfarch Elisabeth.

41 Pan glywodd hi gyfarchiad Mair, llamodd y plentyn yn ei chroth a llanwyd Elisabeth â'r Ysbryd Glân;

42 a llefodd â llais uchel, “Bendigedig wyt ti ymhlith gwragedd, a bendigedig yw ffrwyth dy groth.

43 Sut y daeth i'm rhan i fod mam fy Arglwydd yn dod ataf?

44 Pan glywais dy lais yn fy nghyfarch, dyma'r plentyn yn fy nghroth yn llamu o orfoledd.

45 Gwyn ei byd yr hon a gredodd y cyflawnid yr hyn a lefarwyd wrthi gan yr Arglwydd.”

Emyn Mawl Mair

46 Ac meddai Mair:“Y mae fy enaid yn mawrygu yr Arglwydd,

47 a gorfoleddodd fy ysbryd yn Nuw, fy Ngwaredwr,

48 am iddo ystyried distadledd ei lawforwyn.Oherwydd wele, o hyn allan fe'm gelwir yn wynfydedig gan yr holl genedlaethau,

49 oherwydd gwnaeth yr hwn sydd nerthol bethau mawr i mi,a sanctaidd yw ei enw ef;

50 y mae ei drugaredd o genhedlaeth i genhedlaethi'r rhai sydd yn ei ofni ef.

51 Gwnaeth rymuster â'i fraich,gwasgarodd y rhai balch eu calon;

52 tynnodd dywysogion oddi ar eu gorseddau,a dyrchafodd y rhai distadl;

53 llwythodd y newynog â rhoddion,ac anfonodd y cyfoethogion ymaith yn waglaw.

54 Cynorthwyodd ef Israel ei was,gan ddwyn i'w gof ei drugaredd—

55 fel y llefarodd wrth ein hynafiaid—ei drugaredd wrth Abraham a'i had yn dragywydd.”

56 Ac arhosodd Mair gyda hi tua thri mis, ac yna dychwelodd adref.

Genedigaeth Ioan Fedyddiwr

57 Am Elisabeth, cyflawnwyd yr amser iddi esgor, a ganwyd iddi fab.

58 Clywodd ei chymdogion a'i pherthnasau am drugaredd fawr yr Arglwydd iddi, ac yr oeddent yn llawenychu gyda hi.

59 A'r wythfed dydd daethant i enwaedu ar y plentyn, ac yr oeddent am ei enwi ar ôl ei dad, Sachareias.

60 Ond atebodd ei fam, “Nage, Ioan yw ei enw i fod.”

61 Meddent wrthi, “Nid oes neb o'th deulu â'r enw hwnnw arno.”

62 Yna gofynasant drwy arwyddion i'w dad sut y dymunai ef ei enwi.

63 Galwodd yntau am lechen fach ac ysgrifennodd, “Ioan yw ei enw.” A synnodd pawb.

64 Ar unwaith rhyddhawyd ei enau a'i dafod, a dechreuodd lefaru a bendithio Duw.

65 Daeth ofn ar eu holl gymdogion, a bu trafod ar yr holl ddigwyddiadau hyn trwy fynydd-dir Jwdea i gyd;

66 a chadwyd hwy ar gof gan bawb a glywodd amdanynt. “Beth gan hynny fydd y plentyn hwn?” meddent. Ac yn wir yr oedd llaw'r Arglwydd gydag ef.

Proffwydoliaeth Sachareias

67 Llanwyd Sachareias ei dad ef â'r Ysbryd Glân, a phroffwydodd fel hyn:

68 “Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israelam iddo ymweld â'i bobl a'u prynu i ryddid;

69 cododd waredigaeth gadarn i niyn nhŷ Dafydd ei was—

70 fel y llefarodd trwy enau ei broffwydi sanctaidd yn yr oesoedd a fu—

71 gwaredigaeth rhag ein gelynion ac o afael pawb sydd yn ein casáu;

72 fel hyn y cymerodd drugaredd ar ein hynafiaid,a chofio ei gyfamod sanctaidd,

73 y llw a dyngodd wrth Abraham ein tad,y rhoddai inni

74 gael ein hachub o afael gelynion,a'i addoli yn ddiofn

75 mewn sancteiddrwydd a chyfiawnderger ei fron ef holl ddyddiau ein bywyd.

76 A thithau, fy mhlentyn, gelwir di yn broffwyd y Goruchaf,oherwydd byddi'n cerdded o flaen yr Arglwydd i baratoi ei lwybrau,

77 i roi i'w bobl wybodaeth am waredigaethtrwy faddeuant eu pechodau.

78 Hyn yw trugaredd calon ein Duw—fe ddaw â'r wawrddydd oddi uchod i'n plith,

79 i lewyrchu ar y rhai sy'n eistedd yn nhywyllwch cysgod angau,a chyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.”

80 Yr oedd y plentyn yn tyfu ac yn cryfhau yn ei ysbryd; a bu yn yr anialwch hyd y dydd y dangoswyd ef i Israel.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24