Luc 9 BCN

Cenhadaeth y Deuddeg

1 Galwodd Iesu y Deuddeg ynghyd a rhoddodd iddynt nerth ac awdurdod i fwrw allan gythreuliaid o bob math ac i wella clefydau.

2 Yna anfonodd hwy allan i gyhoeddi teyrnas Dduw ac i iacháu'r cleifion.

3 Meddai wrthynt, “Peidiwch â chymryd dim ar gyfer y daith, na ffon na chod na bara nac arian, na bod â dau grys yr un.

4 I ba dŷ bynnag yr ewch, arhoswch yno nes y byddwch yn ymadael â'r ardal;

5 a phwy bynnag fydd yn gwrthod eich derbyn, ewch allan o'r dref honno ac ysgwyd ymaith y llwch oddi ar eich traed, yn rhybudd iddynt.”

6 Aethant allan a theithio o bentref i bentref, gan gyhoeddi'r newydd da ac iacháu ym mhob man.

Pryder Herod

7 Clywodd y Tywysog Herod am yr holl bethau oedd yn digwydd. Yr oedd mewn cyfyng-gyngor am fod rhai yn dweud fod Ioan wedi ei godi oddi wrth y meirw,

8 ac eraill fod Elias wedi ymddangos, ac eraill wedyn fod un o'r hen broffwydi wedi atgyfodi.

9 Ond meddai Herod, “Fe dorrais i ben Ioan; ond pwy yw hwn yr wyf yn clywed y fath bethau amdano?” Ac yr oedd yn ceisio cael ei weld ef.

Porthi'r Pum Mil

10 Dychwelodd yr apostolion a dywedasant wrth Iesu yr holl bethau yr oeddent wedi eu gwneud. Cymerodd hwy gydag ef ac encilio o'r neilltu i dref a elwir Bethsaida.

11 Ond pan glywodd y tyrfaoedd hyn aethant ar ei ôl. Croesawodd ef hwy, a dechrau llefaru wrthynt am deyrnas Dduw ac iacháu'r rhai ag angen gwellhad arnynt.

12 Yn awr yr oedd y dydd yn dechrau dirwyn i ben, a daeth y Deuddeg ato a dweud, “Gollwng y dyrfa, iddynt fynd i'r pentrefi a'r wlad o amgylch a chael llety a bwyd, oherwydd yr ydym mewn lle unig yma.”

13 Meddai ef wrthynt, “Rhowch chwi rywbeth i'w fwyta iddynt.” Meddent hwy, “Nid oes gennym ddim ond pum torth a dau bysgodyn, heb inni fynd a phrynu bwyd i'r holl bobl hyn.”

14 Yr oeddent ynghylch pum mil o wŷr. Ac meddai ef wrth ei ddisgyblion, “Parwch iddynt eistedd yn gwmnïoedd o ryw hanner cant yr un.”

15 Gwnaethant felly, a pheri i bawb eistedd.

16 Cymerodd yntau y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i'r nef fe'u bendithiodd, a'u torri, a'u rhoi i'w ddisgyblion i'w gosod gerbron y dyrfa.

17 Bwytasant a chafodd pawb ddigon. A chodwyd deuddeg basgedaid o dameidiau o'r hyn oedd dros ben ganddynt.

Datganiad Pedr ynglŷn â Iesu

18 Pan oedd Iesu'n gweddïo o'r neilltu yng nghwmni'r disgyblion, gofynnodd iddynt, “Pwy y mae'r tyrfaoedd yn dweud ydwyf fi?”

19 Atebasant hwythau, “Mae rhai'n dweud Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elias, ac eraill drachefn fod un o'r hen broffwydi wedi atgyfodi.”

20 “A chwithau,” gofynnodd iddynt, “pwy meddwch chwi ydwyf fi?” Atebodd Pedr, “Meseia Duw.”

Iesu'n Rhagfynegi ei Farwolaeth a'i Atgyfodiad

21 Rhybuddiodd ef hwy, a'u gwahardd rhag dweud hyn wrth neb.

22 “Y mae'n rhaid i Fab y Dyn,” meddai, “ddioddef llawer a chael ei wrthod gan yr henuriaid a'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, a'r trydydd dydd ei gyfodi.”

23 A dywedodd wrth bawb, “Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes bob dydd a'm canlyn i.

24 Oherwydd pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd, fe'i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i, fe'i ceidw.

25 Pa elw a gaiff rhywun o ennill yr holl fyd a'i ddifetha neu ei fforffedu ei hun?

26 Oherwydd pwy bynnag y bydd arnynt gywilydd ohonof fi ac o'm geiriau, bydd ar Fab y Dyn gywilydd ohonynt hwythau, pan ddaw yn ei ogoniant ef a'i Dad a'r angylion sanctaidd.

27 Yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae rhai o'r sawl sy'n sefyll yma na phrofant flas marwolaeth nes iddynt weld teyrnas Dduw.”

Gweddnewidiad Iesu

28 Ynghylch wyth diwrnod wedi iddo ddweud hyn, cymerodd Pedr ac Ioan ac Iago gydag ef a mynd i fyny'r mynydd i weddïo.

29 Tra oedd ef yn gweddïo, newidiodd gwedd ei wyneb a disgleiriodd ei wisg yn llachar wyn.

30 A dyma ddau ddyn yn ymddiddan ag ef; Moses ac Elias oeddent,

31 wedi ymddangos mewn gogoniant ac yn siarad am ei ymadawiad, y weithred yr oedd i'w chyflawni yn Jerwsalem.

32 Yr oedd Pedr a'r rhai oedd gydag ef wedi eu llethu gan gwsg; ond deffroesant a gweld ei ogoniant ef, a'r ddau ddyn oedd yn sefyll gydag ef.

33 Wrth i'r rheini ymadael â Iesu, dywedodd Pedr wrtho, “Meistr, y mae'n dda ein bod ni yma; gwnawn dair pabell, un i ti ac un i Moses ac un i Elias.” Ni wyddai beth yr oedd yn ei ddweud.

34 Tra oedd yn dweud hyn, daeth cwmwl a chysgodi drostynt, a chydiodd ofn ynddynt wrth iddynt fynd i mewn i'r cwmwl.

35 Yna daeth llais o'r cwmwl yn dweud, “Hwn yw fy Mab, yr Etholedig; gwrandewch arno.”

36 Ac wedi i'r llais lefaru cafwyd Iesu wrtho'i hun. A bu'r disgyblion yn ddistaw, heb ddweud wrth neb y pryd hwnnw am yr hyn yr oeddent wedi ei weld.

Iacháu Bachgen ag Ysbryd Aflan ynddo

37 Trannoeth, wedi iddynt ddod i lawr o'r mynydd, daeth tyrfa fawr i'w gyfarfod.

38 A dyma ddyn yn gweiddi o'r dyrfa, “Athro, rwy'n erfyn arnat edrych ar fy mab, gan mai ef yw fy unig fab.

39 Y mae ysbryd yn gafael ynddo ac â bloedd sydyn yn ei gynhyrfu nes ei fod yn malu ewyn; ac y mae'n dal i'w ddirdynnu yn ddiollwng bron.

40 Erfyniais ar dy ddisgyblion ei fwrw allan, ac ni allasant.”

41 Atebodd Iesu, “O genhedlaeth ddi-ffydd a gwyrgam, pa hyd y byddaf gyda chwi ac yn eich goddef? Tyrd â'th fab yma.”

42 Wrth iddo ddod ymlaen bwriodd y cythraul ef ar lawr a'i gynhyrfu; ond ceryddodd Iesu yr ysbryd aflan, ac iacháu'r plentyn a'i roi yn ôl i'w dad.

43 Ac yr oedd pawb yn rhyfeddu at fawredd Duw.A thra oedd pawb yn synnu at ei holl weithredoedd, meddai ef wrth ei ddisgyblion,

Iesu Eilwaith yn Rhagfynegi ei Farwolaeth

44 “Clywch, a chofiwch chwi y geiriau hyn: y mae Mab y Dyn i'w draddodi i ddwylo pobl.”

45 Ond nid oeddent yn deall yr ymadrodd hwn; yr oedd ei ystyr wedi ei guddio oddi wrthynt, fel nad oeddent yn ei ganfod, ac yr oedd arnynt ofn ei holi ynglŷn â'r ymadrodd hwn.

Pwy yw'r Mwyaf?

46 Cododd trafodaeth yn eu plith, p'run ohonynt oedd y mwyaf.

47 Ond gwyddai Iesu am feddyliau eu calonnau. Cymerodd blentyn, a'i osod wrth ei ochr,

48 ac meddai wrthynt, “Pwy bynnag sy'n derbyn y plentyn hwn yn fy enw i, y mae'n fy nerbyn i; a phwy bynnag sy'n fy nerbyn i, y mae'n derbyn yr hwn a'm hanfonodd i. Oherwydd y lleiaf yn eich plith chwi oll, hwnnw sydd fawr.”

Y Sawl nad yw yn eich Erbyn, Drosoch Chwi y Mae

49 Atebodd Ioan, “Meistr, gwelsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a buom yn ei wahardd am nad yw'n dy ddilyn gyda ni.”

50 Ond meddai Iesu wrtho, “Peidiwch â gwahardd, oherwydd y sawl nad yw yn eich erbyn, drosoch chwi y mae.”

Pentref yn Samaria yn Gwrthod Derbyn Iesu

51 Pan oedd y dyddiau cyn ei gymryd i fyny yn dirwyn i ben, troes ef ei wyneb i fynd i Jerwsalem,

52 ac anfonodd allan negesyddion o'i flaen. Cychwynasant, a mynd i mewn i bentref yn Samaria i baratoi ar ei gyfer.

53 Ond gwrthododd y bobl ei dderbyn am ei fod ar ei ffordd i Jerwsalem.

54 Pan welodd ei ddisgyblion, Iago ac Ioan, hyn, meddent, “Arglwydd, a fynni di inni alw tân i lawr o'r nef a'u dinistrio?”

55 Ond troes ef a'u ceryddu.

56 Ac aethant i bentref arall.

Rhai yn Dymuno Canlyn Iesu

57 Pan oeddent ar y ffordd yn teithio, meddai rhywun wrtho, “Canlynaf di lle bynnag yr ei.”

58 Meddai Iesu wrtho, “Y mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod, ond gan Fab y Dyn nid oes lle i roi ei ben i lawr.”

59 Ac meddai wrth un arall, “Canlyn fi.” Meddai yntau, “Arglwydd, caniatâ imi yn gyntaf fynd a chladdu fy nhad.”

60 Ond meddai ef wrtho, “Gad i'r meirw gladdu eu meirw eu hunain; dos di a chyhoedda deyrnas Dduw.”

61 Ac meddai un arall, “Canlynaf di, Arglwydd; ond yn gyntaf caniatâ imi ffarwelio â'm teulu.”

62 Ond meddai Iesu wrtho, “Nid yw'r sawl a osododd ei law ar yr aradr, ac sy'n edrych yn ôl, yn addas i deyrnas Dduw.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24