Luc 12 BCN

Rhybudd rhag Rhagrith

1 Yn y cyfamser yr oedd y dyrfa wedi ymgynnull yn ei miloedd, nes eu bod yn sathru ei gilydd dan draed. Dechreuodd ef ddweud wrth ei ddisgyblion yn gyntaf, “Gochelwch rhag surdoes y Phariseaid, hynny yw, eu rhagrith.

2 Nid oes dim wedi ei guddio nas datguddir, na dim yn guddiedig na cheir ei wybod.

3 Am hyn, popeth y buoch yn ei ddweud yn y tywyllwch, fe'i clywir yng ngolau dydd; a'r hyn y buoch yn ei sibrwd yn y glust mewn ystafelloedd o'r neilltu, fe'i cyhoeddir ar bennau'r tai.

Pwy i'w Ofni

4 “Rwy'n dweud wrthych chwi fy nghyfeillion, peidiwch ag ofni'r rhai sy'n lladd y corff, ac sydd wedi hynny heb allu i wneud dim pellach.

5 Ond dangosaf i chwi pwy i'w ofni: ofnwch yr hwn sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i uffern wedi'r lladd; ie, rwy'n dweud wrthych, ofnwch hwnnw.

6 Oni werthir pump aderyn y to am ddwy geiniog? Eto nid yw un ohonynt yn angof gan Dduw.

7 Yn wir, y mae hyd yn oed pob blewyn o wallt eich pen wedi ei rifo. Peidiwch ag ofni; yr ydych yn werth mwy na llawer o adar y to.

Cyffesu Crist gerbron Eraill

8 “Rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag a'm harddel i gerbron eraill, bydd Mab y Dyn hefyd yn eu harddel hwy gerbron angylion Duw;

9 ond y sawl sydd yn fy ngwadu i gerbron eraill, fe'i gwedir ef gerbron angylion Duw.

10 Caiff pwy bynnag a ddywed air yn erbyn Mab y Dyn, faddeuant; ond ni faddeuir i'r sawl sy'n cablu yn erbyn yr Ysbryd Glân.

11 Pan ddygant chwi gerbron y synagogau a'r ynadon a'r awdurdodau, peidiwch â phryderu am ddull nac am gynnwys eich amddiffyniad, nac am eich ymadrodd;

12 oherwydd bydd yr Ysbryd Glân yn eich dysgu chwi ar y pryd beth fydd yn rhaid ei ddweud.”

Dameg yr Ynfytyn Cyfoethog

13 Meddai rhywun o'r dyrfa wrtho, “Athro, dywed wrth fy mrawd am roi i mi fy nghyfran o'n hetifeddiaeth.”

14 Ond meddai ef wrtho, “Ddyn, pwy a'm penododd i yn farnwr neu yn gymrodeddwr rhyngoch?”

15 A dywedodd wrthynt, “Gofalwch ymgadw rhag trachwant o bob math, oherwydd, er cymaint ei gyfoeth, nid yw bywyd neb yn dibynnu ar ei feddiannau.”

16 Ac adroddodd ddameg wrthynt: “Yr oedd tir rhyw ŵr cyfoethog wedi dwyn cnwd da.

17 A dechreuodd feddwl a dweud wrtho'i hun, ‘Beth a wnaf fi, oherwydd nid oes gennyf unman i gasglu fy nghnydau iddo?’

18 Ac meddai, ‘Dyma beth a wnaf fi: tynnaf f'ysguboriau i lawr ac adeiladu rhai mwy, a chasglaf yno fy holl ŷd a'm heiddo.

19 Yna dywedaf wrthyf fy hun, “Ddyn, y mae gennyt stôr o lawer o bethau ar gyfer blynyddoedd lawer; gorffwys, bwyta, yf, bydd lawen.” ’

20 Ond meddai Duw wrtho, ‘Yr ynfytyn, heno y mynnir dy einioes yn ôl gennyt, a phwy gaiff y pethau a baratoaist?’

21 Felly y bydd hi ar y rhai sy'n casglu trysor iddynt eu hunain a heb fod yn gyfoethog gerbron Duw.”

Gofal a Phryder

22 Meddai wrth ei ddisgyblion, “Am hynny rwy'n dweud wrthych, peidiwch â phryderu am eich bywyd nac am eich corff, beth i'w fwyta na beth i'w wisgo.

23 Oherwydd y mae mwy i fywyd rhywun na bwyd, a mwy i'w gorff na dillad.

24 Ystyriwch y brain: nid ydynt yn hau nac yn medi, nid oes ganddynt ystordy nac ysgubor, ac eto y mae Duw yn eu bwydo. Gymaint mwy gwerthfawr ydych chwi na'r adar!

25 A ph'run ohonoch a all ychwanegu munud at ei oes trwy bryderu?

26 Felly os yw hyd yn oed y peth lleiaf y tu hwnt i'ch gallu, pam yr ydych yn pryderu am y gweddill?

27 Ystyriwch y lili, pa fodd y maent yn tyfu: nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu; ond rwy'n dweud wrthych, nid oedd gan hyd yn oed Solomon yn ei holl ogoniant wisg i'w chymharu ag un o'r rhain.

28 Os yw Duw yn dilladu felly y glaswellt, sydd heddiw yn y meysydd ac yfory yn cael ei daflu i'r ffwrn, gymaint mwy y dillada chwi, chwi o ychydig ffydd!

29 A chwithau, peidiwch â rhoi eich bryd ar beth i'w fwyta a beth i'w yfed, a pheidiwch â byw mewn pryder;

30 oherwydd dyna'r holl bethau y mae cenhedloedd y byd yn eu ceisio, ond y mae gennych chwi Dad sy'n gwybod fod arnoch eu hangen.

31 Ceisiwch yn hytrach ei deyrnas ef, a rhoir y pethau hyn yn ychwaneg i chwi.

32 Peidiwch ag ofni, fy mhraidd bychan, oherwydd gwelodd eich Tad yn dda roi i chwi'r deyrnas.

33 Gwerthwch eich eiddo a rhowch ef yn elusen; gwnewch i chwi eich hunain byrsau nad ydynt yn treulio, trysor dihysbydd yn y nefoedd, lle nad yw lleidr yn dod ar y cyfyl, na gwyfyn yn difa.

34 Oherwydd lle mae eich trysor, yno hefyd y bydd eich calon.

Gweision Gwyliadwrus

35 “Bydded eich gwisg wedi ei thorchi a'ch canhwyllau ynghynn.

36 Byddwch chwithau fel rhai yn disgwyl dychweliad eu meistr o briodas, i agor iddo cyn gynted ag y daw a churo.

37 Gwyn eu byd y gweision hynny a geir ar ddihun gan eu meistr pan ddaw; yn wir, rwy'n dweud wrthych y bydd ef yn torchi ei wisg, ac yn eu gosod wrth y bwrdd, ac yn dod ac yn gweini arnynt.

38 Ac os daw ef ar hanner nos neu yn yr oriau mân, a'u cael felly, gwyn eu byd.

39 A gwybyddwch hyn: pe buasai meistr y tŷ yn gwybod pa bryd y byddai'r lleidr yn dod, ni fuasai wedi gadael iddo dorri i mewn i'w dŷ.

40 Chwithau hefyd, byddwch barod, oherwydd pryd na thybiwch y daw Mab y Dyn.”

41 Meddai Pedr, “Arglwydd, ai i ni yr wyt yn adrodd y ddameg hon, ai i bawb yn ogystal?”

42 Dywedodd yr Arglwydd, “Pwy ynteu yw'r goruchwyliwr ffyddlon a chall a osodir gan ei feistr dros ei weision, i roi eu dogn bwyd iddynt yn ei bryd?

43 Gwyn ei fyd y gwas hwnnw a geir yn gwneud felly gan ei feistr pan ddaw;

44 yn wir, rwy'n dweud wrthych y gesyd ef dros ei holl eiddo.

45 Ond os dywed y gwas hwnnw yn ei galon, ‘Y mae fy meistr yn oedi dod’, a dechrau curo'r gweision a'r morynion, a bwyta ac yfed a meddwi,

46 yna bydd meistr y gwas hwnnw yn cyrraedd ar ddiwrnod annisgwyl iddo ef ac ar awr nas gŵyr; ac fe'i cosba yn llym, a gosod ei le gyda'r anffyddloniaid.

47 Bydd y gwas hwnnw sy'n gwybod ewyllys ei feistr, ac eto heb ddarparu na gwneud dim yn ôl ei ewyllys, yn cael curfa dost;

48 ond bydd y gwas nad yw'n gwybod, ond sydd wedi haeddu curfa, yn cael un ysgafn. Disgwylir llawer gan y sawl a dderbyniodd lawer; a gofynnir llawer mwy yn ôl gan yr un y mae llawer wedi ei ymddiried iddo.

Iesu'n Achos Ymraniad

49 “Yr wyf fi wedi dod i fwrw tân ar y ddaear, ac O na fyddai eisoes wedi ei gynnau!

50 Y mae bedydd y mae'n rhaid fy medyddio ag ef, a chymaint yw fy nghyfyngder hyd nes y cyflawnir ef!

51 A ydych chwi'n tybio mai i roi heddwch i'r ddaear yr wyf fi wedi dod? Nage, meddaf wrthych, ond ymraniad.

52 Oherwydd o hyn allan bydd un teulu o bump wedi ymrannu, tri yn erbyn dau a dau yn erbyn tri:

53 “ ‘Ymranna'r tad yn erbyn y maba'r mab yn erbyn y tad,y fam yn erbyn ei mercha'r ferch yn erbyn ei mam,y fam-yng-nghyfraith yn erbyn y ferch-yng-nghyfraitha'r ferch-yng-nghyfraith yn erbyn ei mam-yng-nghyfraith.’ ”

Dehongli'r Amser

54 Dywedodd wrth y tyrfaoedd hefyd, “Pan welwch gwmwl yn codi yn y gorllewin, yr ydych yn dweud ar unwaith, ‘Daw yn law’, ac felly y bydd;

55 a phan welwch wynt y de yn chwythu, yr ydych yn dweud, ‘Daw yn wres’, a hynny fydd.

56 Chwi ragrithwyr, medrwch ddehongli'r olwg ar y ddaear a'r ffurfafen, ond sut na fedrwch ddehongli'r amser hwn?

Cymodi â'th Wrthwynebwr

57 “A pham nad ydych ohonoch eich hunain yn barnu beth sydd yn iawn?

58 Pan wyt yn mynd gyda'th wrthwynebwr at yr ynad, gwna dy orau ar y ffordd yno i gymodi ag ef, rhag iddo dy lusgo gerbron y barnwr, ac i'r barnwr dy draddodi i'r cwnstabl, ac i'r cwnstabl dy fwrw i garchar.

59 Rwy'n dweud wrthyt, ni ddoi di byth allan oddi yno cyn talu'n ôl y geiniog olaf un.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24