1 Codasant oll yn dyrfa a dod ag ef gerbron Pilat.
2 Dechreusant ei gyhuddo gan ddweud, “Cawsom y dyn hwn yn arwain ein cenedl ar gyfeiliorn, yn gwahardd talu trethi i Gesar, ac yn honni mai ef yw'r Meseia, sef y brenin.”
3 Holodd Pilat ef: “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” Atebodd yntau ef, “Ti sy'n dweud hynny.”
4 Ac meddai Pilat wrth y prif offeiriaid a'r tyrfaoedd, “Nid wyf yn cael dim trosedd yn achos y dyn hwn.”
5 Ond dal i daeru yr oeddent: “Y mae'n cyffroi'r bobl â'i ddysgeidiaeth, trwy Jwdea gyfan. Dechreuodd yng Ngalilea, ac y mae wedi cyrraedd hyd yma.”
6 Pan glywodd Pilat hyn, gofynnodd ai Galilead oedd y dyn;
7 ac wedi deall ei fod dan awdurdod Herod, cyfeiriodd yr achos ato, gan fod Herod yntau yn Jerwsalem y dyddiau hynny.
8 Pan welodd Herod Iesu, mawr oedd ei lawenydd; bu'n awyddus ers amser hir i'w weld, gan iddo glywed amdano, ac yr oedd yn gobeithio ei weld yn cyflawni rhyw wyrth.
9 Bu'n ei holi'n faith, ond nid atebodd Iesu iddo yr un gair.
10 Yr oedd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion yno, yn ei gyhuddo yn ffyrnig.
11 A'i drin yn sarhaus a wnaeth Herod hefyd, ynghyd â'i filwyr. Fe'i gwatwarodd, a gosododd wisg ysblennydd amdano, cyn cyfeirio'r achos yn ôl at Pilat.
12 Daeth Herod a Philat yn gyfeillion i'w gilydd y dydd hwnnw; cyn hynny yr oedd gelyniaeth rhyngddynt.
13 Galwodd Pilat y prif offeiriaid ac aelodau'r Cyngor a'r bobl ynghyd,
14 ac meddai wrthynt, “Daethoch â'r dyn hwn ger fy mron fel un sy'n arwain y bobl ar gyfeiliorn. Yn awr, yr wyf fi wedi holi'r dyn hwn yn eich gŵydd chwi, a heb gael ei fod yn euog o unrhyw un o'ch cyhuddiadau yn ei erbyn;
15 ac ni chafodd Herod chwaith, oherwydd cyfeiriodd ef ei achos yn ôl atom ni. Fe welwch nad yw wedi gwneud dim sy'n haeddu marwolaeth.
16 Gan hynny, mi ddysgaf wers iddo â'r chwip a'i ollwng yn rhydd.”
18 Ond gwaeddasant ag un llais, “Ymaith â hwn, rhyddha Barabbas inni.”
19 Dyn oedd hwnnw wedi ei fwrw i garchar o achos gwrthryfel a llofruddiaeth oedd wedi digwydd yn y ddinas.
20 Drachefn anerchodd Pilat hwy, yn ei awydd i ryddhau Iesu,
21 ond bloeddiasant hwy, “Croeshoelia ef, croeshoelia ef.”
22 Y drydedd waith meddai wrthynt, “Ond pa ddrwg a wnaeth ef? Ni chefais unrhyw achos i'w ddedfrydu i farwolaeth. Gan hynny, mi ddysgaf wers iddo â'r chwip a'i ollwng yn rhydd.”
23 Ond yr oeddent yn pwyso arno â'u crochlefain byddarol, gan fynnu ei groeshoelio ef, ac yr oedd eu bonllefau yn ennill y dydd.
24 Yna penderfynodd Pilat ganiatáu eu cais;
25 rhyddhaodd yr hwn yr oeddent yn gofyn amdano, y dyn oedd wedi ei fwrw i garchar am wrthryfela a llofruddio, a thraddododd Iesu i'w hewyllys hwy.
26 Wedi mynd ag ef ymaith gafaelsant yn Simon, brodor o Cyrene, a oedd ar ei ffordd o'r wlad, a gosod y groes ar ei gefn, iddo ei chario y tu ôl i Iesu.
27 Yr oedd tyrfa fawr o'r bobl yn ei ddilyn, ac yn eu plith wragedd yn galaru ac yn wylofain drosto.
28 Troes Iesu atynt a dweud, “Ferched Jerwsalem, peidiwch ag wylo amdanaf fi; wylwch yn hytrach amdanoch eich hunain ac am eich plant.
29 Oherwydd dyma ddyddiau yn dod pan fydd pobl yn dweud, ‘Gwyn eu byd y gwragedd diffrwyth a'r crothau nad esgorasant a'r bronnau na roesant sugn.’
30 Y pryd hwnnw bydd pobl yn dechrau“ ‘Dweud wrth y mynyddoedd,“Syrthiwch arnom”,ac wrth y bryniau,“Gorchuddiwch ni.” ’
31 “Oherwydd os gwneir hyn i'r pren glas, pa beth a ddigwydd i'r pren crin?”
32 Daethpwyd ag eraill hefyd, dau droseddwr, i'w dienyddio gydag ef.
33 Pan ddaethant i'r lle a elwir Y Benglog, yno croeshoeliwyd ef a'r troseddwyr, y naill ar y dde a'r llall ar y chwith iddo.
34 Ac meddai Iesu, “O Dad, maddau iddynt, oherwydd ni wyddant beth y maent yn ei wneud.” A bwriasant goelbrennau i rannu ei ddillad.
35 Yr oedd y bobl yn sefyll yno, yn gwylio. Yr oedd aelodau'r Cyngor hwythau yn ei wawdio gan ddweud, “Fe achubodd eraill; achubed ei hun, os ef yw Meseia Duw, yr Etholedig.”
36 Daeth y milwyr hefyd ato a'i watwar, gan gynnig gwin sur iddo,
37 a chan ddweud, “Os ti yw Brenin yr Iddewon, achub dy hun.”
38 Yr oedd hefyd arysgrif uwch ei ben: “Hwn yw Brenin yr Iddewon.”
39 Yr oedd un o'r troseddwyr ar ei groes yn ei gablu gan ddweud, “Onid ti yw'r Meseia? Achub dy hun a ninnau.”
40 Ond atebodd y llall, a'i geryddu: “Onid oes arnat ofn Duw, a thithau dan yr un ddedfryd?
41 I ni, y mae hynny'n gyfiawn, oherwydd haeddiant ein gweithredoedd sy'n dod inni. Ond ni wnaeth hwn ddim o'i le.”
42 Yna dywedodd, “Iesu, cofia fi pan ddoi i'th deyrnas.”
43 Atebodd yntau, “Yn wir, rwy'n dweud wrthyt, heddiw byddi gyda mi ym Mharadwys.”
44 Erbyn hyn yr oedd hi tua hanner dydd. Daeth tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o'r gloch y prynhawn,
45 a'r haul wedi diffodd. Rhwygwyd llen y deml yn ei chanol.
46 Llefodd Iesu â llef uchel, “O Dad, i'th ddwylo di yr wyf yn cyflwyno fy ysbryd.” A chan ddweud hyn bu farw.
47 Pan welodd y canwriad yr hyn oedd wedi digwydd, dechreuodd ogoneddu Duw gan ddweud, “Yn wir, dyn cyfiawn oedd hwn.”
48 Ac wedi gweld yr hyn a ddigwyddodd, troes yr holl dyrfaoedd, a oedd wedi ymgynnull i wylio'r olygfa, tuag adref gan guro eu bronnau.
49 Yr oedd ei holl gyfeillion, ynghyd â'r gwragedd oedd wedi ei ddilyn ef o Galilea, yn sefyll yn y pellter ac yn gweld y pethau hyn.
50 Yr oedd dyn o'r enw Joseff, aelod o'r Cyngor a dyn da a chyfiawn,
51 nad oedd wedi cydsynio â'u penderfyniad a'u gweithred hwy. Yr oedd yn hanu o Arimathea, un o drefi'r Iddewon, ac yn disgwyl am deyrnas Dduw.
52 Aeth hwn at Pilat a gofyn am gorff Iesu.
53 Wedi ei dynnu ef i lawr a'i amdói mewn lliain, gosododd ef mewn bedd wedi ei naddu, lle nad oedd neb hyd hynny wedi gorwedd.
54 Dydd y Paratoad oedd hi, ac yr oedd y Saboth ar ddechrau.
55 Fe ddilynodd y gwragedd oedd wedi dod gyda Iesu o Galilea, a gwelsant y bedd a'r modd y gosodwyd ei gorff.