1 Cododd ei lygaid a gweld pobl gyfoethog yn rhoi eu rhoddion i mewn yng nghist y drysorfa.
2 Yna gwelodd wraig weddw dlawd yn rhoi dau ddarn bychan o bres ynddi,
3 ac meddai, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych fod y weddw dlawd hon wedi rhoi mwy na phawb.
4 Oherwydd cyfrannodd y rhain i gyd o'r mwy na digon sydd ganddynt, ond rhoddodd hon o'i phrinder y cwbl oedd ganddi i fyw arno.”
5 Wrth i rywrai sôn am y deml, ei bod wedi ei haddurno â meini gwych a rhoddion cysegredig, meddai ef,
6 “Am y pethau hyn yr ydych yn syllu arnynt, fe ddaw dyddiau pryd ni adewir maen ar faen; ni bydd yr un heb ei fwrw i lawr.”
7 Gofynasant iddo, “Athro, pa bryd y bydd hyn? Beth fydd yr arwydd pan fydd hyn ar ddigwydd?”
8 Meddai yntau, “Gwyliwch na chewch eich twyllo. Oherwydd fe ddaw llawer yn fy enw i gan ddweud, ‘Myfi yw’, ac, ‘Y mae'r amser wedi dod yn agos’. Peidiwch â mynd i'w canlyn.
9 A phan glywch am ryfeloedd a gwrthryfeloedd, peidiwch â chymryd eich dychrynu. Rhaid i hyn ddigwydd yn gyntaf, ond nid yw'r diwedd i fod ar unwaith.”
10 Y pryd hwnnw dywedodd wrthynt, “Cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas.
11 Bydd daeargrynfâu dirfawr, a newyn a phlâu mewn mannau. Bydd argoelion arswydus ac arwyddion enfawr o'r nef.
12 Ond cyn hyn oll byddant yn gosod dwylo arnoch ac yn eich erlid. Fe'ch traddodir i'r synagogau ac i garchar, fe'ch dygir gerbron brenhinoedd a llywodraethwyr o achos fy enw i;
13 hyn fydd eich cyfle i dystiolaethu.
14 Penderfynwch beidio â phryderu ymlaen llaw ynglŷn â'ch amddiffyniad;
15 fe roddaf fi i chwi huodledd, a doethineb na all eich holl wrthwynebwyr ei wrthsefyll na'i wrth-ddweud.
16 Fe'ch bradychir gan eich rhieni a'ch ceraint a'ch perthnasau a'ch cyfeillion, a pharant ladd rhai ohonoch.
17 A chas fyddwch gan bawb o achos fy enw i.
18 Ond ni chollir yr un blewyn o wallt eich pen.
19 Trwy eich dyfalbarhad meddiannwch fywyd i chwi eich hunain.
20 “Ond pan welwch Jerwsalem wedi ei hamgylchynu gan fyddinoedd, yna byddwch yn gwybod fod awr ei diffeithio wedi dod yn agos.
21 Y pryd hwnnw, ffoed y rhai sydd yn Jwdea i'r mynyddoedd. Pob un sydd yng nghanol y ddinas, aed allan ohoni; a phob un sydd yn y wlad, peidied â mynd i mewn iddi.
22 Oherwydd dyddiau dial fydd y rhain, pan fydd pob peth sy'n ysgrifenedig yn cael ei gyflawni.
23 Gwae'r gwragedd beichiog a'r rhai sy'n rhoi'r fron yn y dyddiau hynny! Daw cyfyngder dirfawr ar y wlad, a digofaint ar y bobl hon.
24 Byddant yn cwympo dan fin y cleddyf, ac fe'u dygir yn garcharorion i'r holl genhedloedd. Caiff Jerwsalem ei mathru dan draed y Cenhedloedd nes cyflawni eu hamserau hwy.
25 “Bydd arwyddion yn yr haul a'r lloer a'r sêr. Ar y ddaear bydd cenhedloedd mewn cyfyngder yn eu pryder rhag trymru ac ymchwydd y môr.
26 Bydd pobl yn llewygu gan ofn wrth ddisgwyl y pethau sy'n dod ar y byd; oherwydd ysgydwir nerthoedd y nefoedd.
27 A'r pryd hwnnw gwelant Fab y Dyn yn dyfod mewn cwmwl gyda nerth a gogoniant mawr.
28 Pan ddechreua'r pethau hyn ddigwydd, ymunionwch a chodwch eich pennau, oherwydd y mae eich rhyddhad yn agosáu.”
29 Adroddodd ddameg wrthynt: “Edrychwch ar y ffigysbren a'r holl goed.
30 Pan fyddant yn dechrau deilio, fe wyddoch eich hunain o'u gweld fod yr haf bellach yn agos.
31 Felly chwithau, pan welwch y pethau hyn yn digwydd, byddwch yn gwybod fod teyrnas Dduw yn agos.
32 Yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid â'r genhedlaeth hon heibio nes i'r cwbl ddigwydd.
33 Y nef a'r ddaear, ânt heibio, ond fy ngeiriau i, nid ânt heibio ddim.
34 “Cymerwch ofal, rhag i'ch meddyliau gael eu pylu gan ddiota a meddwi a gofalon bydol, ac i'r dydd hwnnw ddod arnoch yn ddisymwth
35 fel magl; oherwydd fe ddaw ar bawb sy'n trigo ar wyneb y ddaear gyfan.
36 Byddwch effro bob amser, gan ddeisyf am nerth i ddianc rhag yr holl bethau hyn sydd ar ddigwydd, ac i sefyll yng ngŵydd Mab y Dyn.”
37 Yn ystod y dydd byddai'n dysgu yn y deml, ond byddai'n mynd allan ac yn treulio'r nos ar y mynydd a elwir Olewydd.
38 Yn y bore bach deuai'r holl bobl ato yn y deml i wrando arno.