Luc 20 BCN

Amau Awdurdod Iesu

1 Un o'r dyddiau pan oedd ef yn dysgu'r bobl yn y deml ac yn cyhoeddi'r newydd da, daeth y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, ynghyd â'r henuriaid, ato,

2 ac meddent wrtho, “Dywed wrthym trwy ba awdurdod yr wyt ti'n gwneud y pethau hyn, neu pwy roddodd i ti'r awdurdod hwn.”

3 Atebodd ef hwy, “Fe ofynnaf finnau rywbeth i chwi. Dywedwch wrthyf:

4 bedydd Ioan, ai o'r nef yr oedd, ai o'r byd daearol?”

5 Dadleusant â'i gilydd gan ddweud, “Os dywedwn, ‘O'r nef’, fe ddywed, ‘Pam na chredasoch ef?’

6 Ond os dywedwn, ‘O'r byd daearol’, bydd yr holl bobl yn ein llabyddio, oherwydd y maent yn argyhoeddedig fod Ioan yn broffwyd.”

7 Ac atebasant nad oeddent yn gwybod o ble'r oedd.

8 Meddai Iesu wrthynt, “Ni ddywedaf finnau chwaith wrthych chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn.”

Dameg y Winllan a'r Tenantiaid

9 Dechreuodd ddweud y ddameg hon wrth y bobl: “Fe blannodd rhywun winllan, ac wedi iddo ei gosod hi i denantiaid, aeth oddi cartref am amser hir.

10 Pan ddaeth yn amser, anfonodd was at y tenantiaid iddynt roi iddo gyfran o ffrwyth y winllan. Ond ei guro a wnaeth y tenantiaid, a'i yrru i ffwrdd yn waglaw.

11 Anfonodd ef was arall, ond curasant hwn hefyd a'i amharchu, a'i yrru i ffwrdd yn waglaw.

12 Anfonodd ef drachefn drydydd, ond clwyfasant hwn hefyd a'i fwrw allan.

13 Yna meddai perchen y winllan, ‘Beth a wnaf fi? Fe anfonaf fy mab, yr anwylyd; efallai y parchant ef.’

14 Ond pan welodd y tenantiaid hwn, dechreusant drafod ymhlith ei gilydd gan ddweud, ‘Hwn yw'r etifedd; lladdwn ef, er mwyn i'r etifeddiaeth ddod yn eiddo i ni.’

15 A bwriasant ef allan o'r winllan a'i ladd. Beth ynteu a wna perchen y winllan iddynt?

16 Fe ddaw ac fe ddifetha'r tenantiaid hynny, ac fe rydd y winllan i eraill.” Pan glywsant hyn meddent, “Na ato Duw!”

17 Edrychodd ef arnynt a dweud, “Beth felly yw ystyr yr Ysgrythur hon:“ ‘Y maen a wrthododd yr adeiladwyr,hwn a ddaeth yn faen y gongl’?

18 “Pawb sy'n syrthio ar y maen hwn, fe'i dryllir; pwy bynnag y syrth y maen arno, fe'i maluria.”

19 Ceisiodd yr ysgrifenyddion a'r prif offeiriaid osod dwylo arno y pryd hwnnw, ond yr oedd arnynt ofn y bobl, oherwydd gwyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedodd y ddameg hon.

Talu Trethi i Gesar

20 Gwyliasant eu cyfle ac anfon ysbiwyr, yn rhith pobl onest, i'w ddal ef ar air, er mwyn ei draddodi i awdurdod brawdlys y rhaglaw.

21 Gofynasant iddo, “Athro, gwyddom fod dy eiriau a'th ddysgeidiaeth yn gywir; yr wyt yn ddi-dderbyn-wyneb, ac yn dysgu ffordd Duw yn gwbl ddiffuant.

22 A yw'n gyfreithlon inni dalu treth i Gesar, ai nid yw?”

23 Ond deallodd ef eu hystryw, ac meddai wrthynt,

24 “Dangoswch imi ddarn arian. Llun ac arysgrif pwy sydd arno?” “Cesar,” meddent hwy.

25 Dywedodd ef wrthynt, “Gan hynny, talwch bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw.”

26 Yr oeddent wedi methu ei ddal ar air o flaen y bobl, a chan ryfeddu at ei ateb aethant yn fud.

Holi ynglŷn â'r Atgyfodiad

27 Daeth ato rai o'r Sadwceaid, y bobl sy'n dal nad oes dim atgyfodiad. Gofynasant iddo,

28 “Athro, ysgrifennodd Moses ar ein cyfer, os bydd rhywun farw yn ŵr priod, ond yn ddi-blant, fod ei frawd i gymryd y wraig ac i godi plant i'w frawd.

29 Yn awr, yr oedd saith o frodyr. Cymerodd y cyntaf wraig, a bu farw'n ddi-blant.

30 Cymerodd yr ail

31 a'r trydydd hi, ac yn yr un modd bu'r saith farw heb adael plant.

32 Yn ddiweddarach bu farw'r wraig hithau.

33 Beth am y wraig felly? Yn yr atgyfodiad, gwraig p'run ohonynt fydd hi? Oherwydd cafodd y saith hi'n wraig.”

34 Meddai Iesu wrthynt, “Y mae plant y byd hwn yn priodi ac yn cael eu priodi;

35 ond y rhai a gafwyd yn deilwng i gyrraedd y byd hwnnw a'r atgyfodiad oddi wrth y meirw, ni phriodant ac ni phriodir hwy.

36 Ni allant farw mwyach, oherwydd y maent fel angylion. Plant Duw ydynt, am eu bod yn blant yr atgyfodiad.

37 Ond bod y meirw yn codi, y mae Moses yntau wedi dangos hynny yn hanes y Berth, pan ddywed, ‘Arglwydd Dduw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob’.

38 Nid Duw'r meirw yw ef, ond y rhai byw, oherwydd y mae pawb yn fyw iddo ef.”

39 Atebodd rhai o'r ysgrifenyddion, “Athro, da y dywedaist”,

40 oherwydd ni feiddient mwyach ei holi am ddim.

Holi ynglŷn â Mab Dafydd

41 A dywedodd wrthynt, “Sut y mae pobl yn gallu dweud fod y Meseia yn Fab Dafydd?

42 Oherwydd y mae Dafydd ei hun yn dweud yn llyfr y Salmau:“ ‘Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i,“Eistedd ar fy neheulaw

43 nes imi osod dy elynion yn droedfainc i'th draed.” ’

44 “Yn awr, y mae Dafydd yn ei alw'n Arglwydd; sut felly y mae'n fab iddo?”

Cyhuddo'r Ysgrifenyddion

45 A'r holl bobl yn gwrando, meddai wrth ei ddisgyblion,

46 “Gochelwch rhag yr ysgrifenyddion sy'n hoffi rhodianna mewn gwisgoedd llaes, sy'n caru cael cyfarchiadau yn y marchnadoedd, a'r prif gadeiriau yn y synagogau, a'r seddau anrhydedd mewn gwleddoedd,

47 ac sy'n difa cartrefi gwragedd gweddwon, ac mewn rhagrith yn gweddïo'n faith; fe dderbyn y rhain drymach dedfryd.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24