1 Yn gymaint â bod llawer wedi ymgymryd ag ysgrifennu hanes y pethau a gyflawnwyd yn ein plith,
2 fel y traddodwyd hwy inni gan y rhai a fu o'r dechreuad yn llygad-dystion ac yn weision y gair,
3 penderfynais innau, gan fy mod wedi ymchwilio yn fanwl i bopeth o'r dechreuad, eu hysgrifennu i ti yn eu trefn, ardderchocaf Theoffilus,
4 er mwyn iti gael sicrwydd am y wybodaeth a dderbyniaist.
5 Yn nyddiau Herod, brenin Jwdea, yr oedd offeiriad o adran Abeia, o'r enw Sachareias, a chanddo wraig o blith merched Aaron; ei henw hi oedd Elisabeth.
6 Yr oeddent ill dau yn gyfiawn gerbron Duw, yn ymddwyn yn ddi-fai yn ôl holl orchmynion ac ordeiniadau'r Arglwydd.
7 Nid oedd ganddynt blant, oherwydd yr oedd Elisabeth yn ddiffrwyth, ac yr oeddent ill dau wedi cyrraedd oedran mawr.