28 Aeth yr angel ati a dweud, “Henffych well, tydi, yr un y rhoddodd Duw ei ffafr iddi! Y mae'r Arglwydd gyda thi.”
29 Ond cythryblwyd hi drwyddi gan ei eiriau, a cheisiodd ddirnad pa fath gyfarchiad a allai hwn fod.
30 Meddai'r angel wrthi, “Paid ag ofni, Mair, oherwydd cefaist ffafr gyda Duw;
31 ac wele, byddi'n beichiogi yn dy groth ac yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu.
32 Bydd hwn yn fawr, a Mab y Goruchaf y gelwir ef; rhydd yr Arglwydd Dduw iddo orsedd Dafydd ei dad,
33 ac fe deyrnasa ar dŷ Jacob am byth, ac ar ei deyrnas ni bydd diwedd.”
34 Meddai Mair wrth yr angel, “Sut y digwydd hyn, gan nad wyf yn cael cyfathrach â gŵr?”