10 Oherwydd y mae pawb sy'n gofyn yn derbyn, a'r sawl sy'n ceisio yn cael, ac i'r un sy'n curo agorir y drws.
11 Os bydd mab un ohonoch yn gofyn i'w dad am bysgodyn, a rydd ef iddo sarff yn lle pysgodyn?
12 Neu os bydd yn gofyn am wy, a rydd ef iddo ysgorpion?
13 Am hynny, os ydych chwi, sy'n ddrwg, yn medru rhoi rhoddion da i'ch plant, gymaint mwy y rhydd y Tad nefol yr Ysbryd Glân i'r rhai sy'n gofyn ganddo.”
14 Yr oedd yn bwrw allan gythraul, a hwnnw'n un mud. Ac wedi i'r cythraul fynd allan, llefarodd y mudan. Synnodd y tyrfaoedd,
15 ond meddai rhai ohonynt, “Trwy Beelsebwl, pennaeth y cythreuliaid, y mae'n bwrw allan gythreuliaid.”
16 Yr oedd eraill am ei brofi, a gofynasant am arwydd ganddo o'r nef.