26 Yna y mae'n mynd ac yn cymryd ato saith ysbryd arall mwy drygionus nag ef ei hun; y maent yn mynd i mewn ac yn ymgartrefu yno; ac y mae cyflwr olaf y dyn hwnnw yn waeth na'r cyntaf.”
27 Wrth iddo ddweud hyn, cododd gwraig o'r dyrfa ei llais ac meddai wrtho, “Gwyn eu byd y groth a'th gariodd di a'r bronnau a sugnaist.”
28 “Nage,” meddai ef, “gwyn eu byd y rhai sy'n clywed gair Duw ac yn ei gadw.”
29 Wrth i'r tyrfaoedd gynyddu, dechreuodd lefaru: “Y mae'r genhedlaeth hon yn genhedlaeth ddrygionus; y mae'n ceisio arwydd. Eto ni roddir arwydd iddi ond arwydd Jona.
30 Oherwydd fel y bu Jona yn arwydd i bobl Ninefe, felly y bydd Mab y Dyn yntau i'r genhedlaeth hon.
31 Bydd Brenhines y De yn codi yn y Farn gyda phobl y genhedlaeth hon, ac yn eu condemnio hwy; oherwydd daeth hi o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon, ac yr ydych chwi'n gweld yma beth mwy na Solomon.
32 Bydd pobl Ninefe yn codi yn y Farn gyda'r genhedlaeth hon, ac yn ei chondemnio hi; oherwydd edifarhasant hwy dan genadwri Jona, ac yr ydych chwi'n gweld yma beth mwy na Jona.