51 o waed Abel hyd at waed Sechareia, a drengodd rhwng yr allor a'r cysegr. Ie, rwy'n dweud wrthych, fe elwir y genhedlaeth hon i gyfrif amdano.
52 Gwae chwi athrawon y Gyfraith, oherwydd ichwi gymryd ymaith allwedd gwybodaeth; nid aethoch i mewn eich hunain, a'r rhai oedd am fynd i mewn, eu rhwystro a wnaethoch.”
53 Wedi iddo fynd allan oddi yno dechreuodd yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid fagu dig tuag ato, a'i holi yn fanwl ynghylch llawer o bethau,
54 gan aros fel helwyr i'w faglu ar ryw air o'i enau.