1 Yr un adeg, daeth rhywrai a mynegi iddo am y Galileaid y cymysgodd Pilat eu gwaed â'u hebyrth.
2 Atebodd ef hwy, “A ydych chwi'n tybio fod y rhain yn waeth pechaduriaid na'r holl Galileaid eraill, am iddynt ddioddef hyn?
3 Nac oeddent, meddaf wrthych; eto, os nad edifarhewch, fe dderfydd amdanoch oll yn yr un modd.
4 Neu'r deunaw hynny y syrthiodd y tŵr arnynt yn Siloam a'u lladd, a ydych chwi'n tybio fod y rhain yn waeth troseddwyr na holl drigolion eraill Jerwsalem?
5 Nac oeddent, meddaf wrthych; eto, os nad edifarhewch, fe dderfydd amdanoch oll yn yr un modd.”
6 Adroddodd y ddameg hon: “Yr oedd gan rywun ffigysbren wedi ei blannu yn ei winllan. Daeth i chwilio am ffrwyth arno, ac ni chafodd ddim.