18 Meddai gan hynny, “I beth y mae teyrnas Dduw yn debyg, ac i beth y cyffelybaf hi?
19 Y mae'n debyg i hedyn mwstard; y mae rhywun yn ei gymryd ac yn ei fwrw i'w ardd, ac y mae'n tyfu ac yn dod yn goeden, ac y mae adar yr awyr yn nythu yn ei changhennau.”
20 Ac meddai eto, “I beth y cyffelybaf deyrnas Dduw?
21 Y mae'n debyg i lefain; y mae gwraig yn ei gymryd, ac yn ei gymysgu â thri mesur o flawd gwenith, nes lefeinio'r cwbl.”
22 Yr oedd yn mynd trwy'r trefi a'r pentrefi gan ddysgu, ar ei ffordd i Jerwsalem.
23 Meddai rhywun wrtho, “Arglwydd, ai ychydig yw'r rhai sy'n cael eu hachub?” Ac meddai ef wrthynt,
24 “Ymegnïwch i fynd i mewn trwy'r drws cul, oherwydd rwy'n dweud wrthych y bydd llawer yn ceisio mynd i mewn ac yn methu.