26 Yna dechreuwch ddweud, ‘Buom yn bwyta ac yn yfed gyda thi, a buost ti yn dysgu yn ein strydoedd ni.’
27 A dywed ef wrthych, ‘Ni wn o ble'r ydych. Ewch ymaith oddi wrthyf, chwi ddrwgweithredwyr oll.’
28 Bydd yno wylo a rhincian dannedd, pan welwch Abraham ac Isaac a Jacob a'r holl broffwydi yn nheyrnas Dduw, a chwithau'n cael eich bwrw allan.
29 A daw rhai o'r dwyrain a'r gorllewin ac o'r gogledd a'r de, a chymryd eu lle yn y wledd yn nheyrnas Dduw.
30 Ac yn wir, bydd rhai sy'n olaf yn flaenaf, a rhai sy'n flaenaf yn olaf.”
31 Y pryd hwnnw, daeth rhai Phariseaid ato a dweud wrtho, “Dos i ffwrdd oddi yma, oherwydd y mae Herod â'i fryd ar dy ladd di.”
32 Meddai ef wrthynt, “Ewch a dywedwch wrth y cadno hwnnw, ‘Heddiw ac yfory byddaf yn bwrw allan gythreuliaid ac yn iacháu, a'r trydydd dydd cyrhaeddaf gyflawniad fy ngwaith.’