9 Ac os daw â ffrwyth y flwyddyn nesaf, popeth yn iawn; onid e, cei ei dorri i lawr.’ ”
10 Yr oedd yn dysgu yn un o'r synagogau ar y Saboth.
11 Yr oedd yno wraig oedd ers deunaw mlynedd yng ngafael ysbryd oedd wedi bod yn ei gwanychu nes ei bod yn wargrwm ac yn hollol analluog i sefyll yn syth.
12 Pan welodd Iesu hi galwodd arni, “Wraig, yr wyt wedi dy waredu o'th wendid.”
13 Yna dododd ei ddwylo arni, ac ar unwaith ymunionodd drachefn, a dechrau gogoneddu Duw.
14 Ond yr oedd arweinydd y synagog yn ddig fod Iesu wedi iacháu ar y Saboth, ac meddai wrth y dyrfa, “Y mae chwe diwrnod gwaith; dewch i'ch iacháu ar y dyddiau hynny, ac nid ar y dydd Saboth.”
15 Atebodd yr Arglwydd ef, “Chwi ragrithwyr, onid yw pob un ohonoch ar y Saboth yn gollwng ei ych neu ei asyn o'r preseb ac yn mynd ag ef allan i'r dŵr?