12 Meddai hefyd wrth ei wahoddwr, “Pan fyddi'n trefnu cinio neu swper, paid â gwahodd dy gyfeillion na'th frodyr na'th berthnasau na'th gymdogion cyfoethog, rhag ofn iddynt hwythau yn eu tro dy wahodd di, ac iti gael dy ad-dalu.
13 Pan fyddi'n trefnu gwledd, gwahodd yn hytrach y tlodion, yr anafusion, y cloffion, a'r deillion;
14 a gwyn fydd dy fyd, am nad oes ganddynt fodd i dalu'n ôl iti; cei dy dalu'n ôl yn atgyfodiad y cyfiawn.”
15 Clywodd un o'i gyd-westeion hyn ac meddai wrtho, “Gwyn ei fyd pwy bynnag a gaiff gyfran yn y wledd yn nheyrnas Dduw.”
16 Ond meddai ef wrtho, “Yr oedd dyn yn trefnu gwledd fawr. Gwahoddodd lawer o bobl,
17 ac anfonodd ei was ar awr y wledd i ddweud wrth y gwahoddedigion, ‘Dewch, y mae popeth yn barod yn awr.’
18 Ond dechreuodd pawb ymesgusodi yn unfryd. Meddai'r cyntaf wrtho, ‘Rwyf wedi prynu cae, ac y mae'n rhaid imi fynd allan i gael golwg arno; a wnei di fy esgusodi, os gweli di'n dda?’