21 Aeth y gwas at ei feistr a rhoi gwybod iddo. Yna digiodd meistr y tŷ, ac meddai wrth ei was, ‘Dos allan ar unwaith i heolydd a strydoedd cefn y dref, a thyrd â'r tlodion a'r anafusion a'r deillion a'r cloffion i mewn yma.’
22 Pan ddywedodd y gwas, ‘Meistr, y mae dy orchymyn wedi ei gyflawni, ond y mae lle o hyd’,
23 meddai ei feistr wrtho, ‘Dos allan i'r ffyrdd ac i'r cloddiau, a myn ganddynt hwy ddod i mewn, fel y llenwir fy nhŷ;
24 oherwydd rwy'n dweud wrthych na chaiff dim un o'r rheini oedd wedi eu gwahodd brofi fy ngwledd.’ ”
25 Yr oedd tyrfaoedd niferus yn teithio gydag ef, a throes a dweud wrthynt,
26 “Os daw rhywun ataf fi heb gasáu ei dad ei hun, a'i fam a'i wraig a'i blant a'i frodyr a'i chwiorydd, a hyd yn oed ei fywyd ei hun, ni all fod yn ddisgybl imi.
27 Pwy bynnag nad yw'n cario ei groes ei hun ac yn dod ar fy ôl i, ni all fod yn ddisgybl imi.