30 gan ddweud, ‘Dyma rywun a ddechreuodd adeiladu ac a fethodd orffen.’
31 Neu os bydd brenin ar ei ffordd i ryfela yn erbyn brenin arall, oni fydd yn gyntaf yn eistedd i lawr i ystyried a all ef, â deng mil o filwyr, wrthsefyll un sy'n ymosod arno ag ugain mil?
32 Os na all, bydd yn anfon llysgenhadon i geisio telerau heddwch tra bo'r llall o hyd ymhell i ffwrdd.
33 Yr un modd, gan hynny, ni all neb ohonoch nad yw'n ymwrthod â'i holl feddiannau fod yn ddisgybl i mi.
34 “Peth da yw halen. Ond os cyll yr halen ei hun ei flas, â pha beth y rhoddir blas arno?
35 Nid yw'n dda i'r pridd nac i'r domen; lluchir ef allan. Y sawl sydd â chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed.”