1 Yr oedd yr holl gasglwyr trethi a'r pechaduriaid yn nesáu ato i wrando arno.
2 Ond yr oedd y Phariseaid a'r ysgrifenyddion yn grwgnach ymhlith ei gilydd, gan ddweud, “Y mae hwn yn croesawu pechaduriaid ac yn cydfwyta gyda hwy.”
3 A dywedodd ef y ddameg hon wrthynt:
4 “Bwriwch fod gan un ohonoch chwi gant o ddefaid, a digwydd iddo golli un ohonynt; onid yw'n gadael y naw deg a naw yn yr anialdir ac yn mynd ar ôl y ddafad golledig nes dod o hyd iddi?
5 Wedi dod o hyd iddi y mae'n ei gosod ar ei ysgwyddau yn llawen,
6 yn mynd adref, ac yn gwahodd ei gyfeillion a'i gymdogion ynghyd, gan ddweud wrthynt, ‘Llawenhewch gyda mi, oherwydd yr wyf wedi cael hyd i'm dafad golledig.’