14 Pan oedd wedi gwario'r cyfan, daeth newyn enbyd ar y wlad honno, a dechreuodd yntau fod mewn eisiau.
15 Aeth ac ymlynu wrth un o ddinasyddion y wlad, ac anfonodd hwnnw ef i'w gaeau i ofalu am y moch.
16 Buasai'n falch o wneud pryd o'r plisg yr oedd y moch yn eu bwyta; ond nid oedd neb yn cynnig dim iddo.
17 Yna daeth ato'i hun a dweud, ‘Faint o weision cyflog sydd gan fy nhad, a phob un ohonynt yn cael mwy na digon o fara, a minnau yma yn marw o newyn?
18 Fe godaf, ac fe af at fy nhad a dweud wrtho, “Fy nhad, pechais yn erbyn y nef ac yn dy erbyn di.
19 Nid wyf mwyach yn haeddu fy ngalw'n fab iti; cymer fi fel un o'th weision cyflog.” ’
20 Yna cododd a mynd at ei dad. A phan oedd eto ymhell i ffwrdd, gwelodd ei dad ef. Tosturiodd wrtho, rhedodd ato, a rhoes ei freichiau am ei wddf a'i gusanu.