21 Ac meddai ei fab wrtho, ‘Fy nhad, pechais yn erbyn y nef ac yn dy erbyn di. Nid wyf mwyach yn haeddu fy ngalw'n fab iti.’
22 Ond meddai ei dad wrth ei weision, ‘Brysiwch! Dewch â gwisg allan, yr orau, a'i gosod amdano. Rhowch fodrwy ar ei fys a sandalau am ei draed.
23 Dewch â'r llo sydd wedi ei besgi, a lladdwch ef. Gadewch inni wledda a llawenhau,
24 oherwydd yr oedd hwn, fy mab, wedi marw, a daeth yn fyw eto; yr oedd ar goll, a chafwyd hyd iddo.’ Yna dechreusant wledda yn llawen.
25 “Yr oedd ei fab hynaf yn y caeau. Pan nesaodd at y tŷ ar ei ffordd adref, clywodd sŵn cerddoriaeth a dawnsio.
26 Galwodd un o'r gweision ato a gofyn beth oedd ystyr hyn.
27 ‘Dy frawd sydd wedi dychwelyd,’ meddai ef wrtho, ‘ac am iddo ei gael yn ôl yn holliach, y mae dy dad wedi lladd y llo oedd wedi ei besgi.’