29 ond atebodd ef, ‘Yr holl flynyddoedd hyn bûm yn was bach iti, heb anufuddhau erioed i'th orchymyn. Ni roddaist erioed i mi gymaint â myn gafr, imi gael gwledda gyda'm cyfeillion.
30 Ond pan ddychwelodd hwn, dy fab sydd wedi difa dy eiddo gyda phuteiniaid, lleddaist iddo ef y llo oedd wedi ei besgi.’
31 ‘Fy mhlentyn,’ meddai'r tad wrtho, ‘yr wyt ti bob amser gyda mi, ac y mae'r cwbl sydd gennyf yn eiddo i ti.
32 Yr oedd yn rhaid gwledda a llawenhau, oherwydd yr oedd hwn, dy frawd, wedi marw, a daeth yn fyw; yr oedd ar goll, a chafwyd hyd iddo.’ ”